Nofio Perfformiad Uhcel Ym Mhrifysgol Abertawe

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn meithrin nofwyr o bob lefel, gan ddarparu amgylchedd hyfforddi o'r radd flaenaf yn lleoliad anhygoel Bae Abertawe.

Wedi’i rheoli ar y cyd â Chanolfan Perfformiad Uchel Genedlaethol Nofio Cymru (SWNHPC), lleolir Rhaglen Nofio Prifysgol Abertawe yng nghanolfan Pwll Cenedlaethol Cymru ym Parc Chwaraeon Bae Abertawe. Mae’n cyfuno’r safonau uchaf o ran hyfforddiant nofio, cryfder a chyflyru, gwyddor chwaraeon â mynediad at ragoriaeth academaidd.

Mae ein nofwyr yn anelu am Bencampwriaethau Prydain, Pencampwriaethau’r Byd, Gemau’r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac maent yn cyflawni canlyniadau rhagorol ar lwyfan byd-eang.

Dengys profiad fod nofwyr dawnus ac ymroddedig yn ffynnu mewn diwylliant o uchelgais ac amgylchedd cefnogol. Dyna’n union yr hyn a ddarparwn ym Mhrifysgol Abertawe a Chanolfan Perfformiad Uchel Genedlaethol Nofio Cymru.

Mae Carfan Berfformio ein Rhaglen Nofio yn llwybr i Ganolfan Perfformiad Uchel Genedlaethol Nofio Cymru ac mae’n cynnig popeth mae ei angen ar nofiwr sy’n awyddus i ymuno â rhengoedd y perfformwyr elît.

CYFLEOEDD NODDI NOFIO

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi mewn perthynas â'n tîm nofio ac i gefnogi'r tîm neu chwaraewyr, gan ar yr un pryd adeiladu eich brand.

Cysylltwch â ni trwy e-bost