Ysgolhaig chwaraeon yn torri record

Mae ein hysgolheigion chwaraeon yn parhau i ragori yn eu campau, gan gyrraedd y podiwm ac, yn yr achos hwn, dorri record BUCS!

Rhwng 23 a 25 Chwefror, bu tîm nofio Prifysgol Abertawe yng Nghanolfan Chwaraeon Ryngwladol Ponds Forge yn Sheffield yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Cwrs Hir BUCS (cystadlaethau cenedlaethol BUCS) yn erbyn timau nofio o brifysgolion ledled y DU.

Enillodd Lewis Fraser, ysgolhaig chwaraeon yma ym Mhrifysgol Abertawe, gystadleuaeth strôc pili-pala 100m y dynion dros y penwythnos, gan dorri record BUCS o 0.15 eiliad drwy orffen y ras mewn 52.62 eiliad. Nid oedd y record wedi cael ei thorri ers 2016, pan wnaed hynny gan fyfyriwr o Brifysgol Plymouth. Enillodd Lewis fedal arall am orffen yn ail yn y gystadleuaeth strôc pili-pala 50m – penwythnos hynod lwyddiannus.

Roedd Lewis wrth ei fodd gyda'i gyflawniadau, gan ddweud wrthym:

“Rwyf wedi mwynhau fy nghystadleuaeth BUCS ddiwethaf yn fawr ac mae'r tîm wedi bod yn anhygoel. Cafwyd perfformiadau nofio llawn ymdrech drwy'r penwythnos a bu awyrgylch egnïol gwych yn y grŵp. Rwy'n hapus gyda fy mherfformiadau nofio da, ond mae rhagor o waith i'w wneud cyn y treialon.

Rwyf am ddiolch yn fawr i holl staff Chwaraeon Abertawe a Nofio Cymru a'r nofwyr am ei gwneud hi'n bencampwriaeth gofiadwy.”

Mae Lewis wedi cael tymor anhygoel, o ennill y cystadlaethau strôc pili-pala 100m a 50m ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr BUCS ym mis Tachwedd, i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaeth Nofio Dan 23 Oed Ewrop yn Nulyn yr haf diwethaf.

Mae partneriaeth Prifysgol Abertawe â Nofio Cymru'n rhoi cyfleoedd a llwybrau i'n nofwyr yn yr holl gampau dŵr, ac yn parhau i ymdrechu i sicrhau profiad o'r radd flaenaf i'n nofwyr perfformiad uchel. Ceir rhagor o wybodaeth am Ganolfan Perfformiad Uchel Genedlaethol Nofio Cymru yma.

Cymerwch gip ar y rhaglen nofio perfformiad uchel ym Mhrifysgol Abertawe yma.

 

Rhannu'r stori