Dechrau da i 'Bod yn ACTIF'

Dechrau da i 'Bod yn ACTIF'

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn wych i raglen Bod yn ACTIF y Brifysgol, gyda 387 o gofrestriadau newydd yn 2023 eisoes!

Mae myfyrwyr o gwmpas y Brifysgol yn dod at ei gilydd i fwynhau ystod o weithgareddau, sy'n amrywio o bêl-droed a phêl-fasged i griced dan do a phêl-law. Dewch i ymuno â ni i weld dros eich hun!

Gyda llawer o weithgareddau newydd a chyffrous ar y gorwel, mae tîm Bod yn ACTIF wrth ei fodd yn cefnogi cynifer o fyfyrwyr ar eu taith i fod yn fwy heini.

Mae rhaglen Bod yn ACTIF yn cael ei darparu gan dîm o fyfyrwyr 'Actifyddion' ymroddedig sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers lansio'r cynllun ym mis Medi i gyflwyno rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n gynhwysol, yn atyniadol ac yn anad dim, yn llawer o hwyl! Byddwn yn recriwtio mwy o Actifyddion Myfyrwyr yn y misoedd nesaf, felly os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen hon

Mae lles myfyrwyr yn un o brif ymrwymiadau rhaglen Bod yn ACTIF, a nod y tîm yw sicrhau bod myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y campws a dod o hyd i'w cydbwysedd delfrydol rhwng astudiaethau academaidd a chadw’n hapus ac yn iach.

Mae'r sesiynau badminton a phêl-foli ar ddydd Sadwrn ar Gampws Singleton yn hynod boblogaidd - y rhan fwyaf o'r wythnosau, mae'r sesiynau'n llenwi'n gyflym! Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o fyfyrwyr yn dod at ei gilydd ar y penwythnos i gymryd rhan yn y gweithgareddau a dod i adnabod eu cyd-fyfyrwyr o adrannau eraill o'r Brifysgol. Ar ôl dwy sesiwn yn unig, mae myfyrwyr yn dod i wybod am griced dan do Bod yn ACTIF, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw'n ymuno â'r Actifyddion ar Gampws Singleton i sgorio rhediadau!

Mae tîm Bod yn ACTIF hefyd wedi bod yn brysur yn cefnogi her BRIT eleni ac yn annog myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol i gofnodi eu milltiroedd er budd iechyd meddwl myfyrwyr! Os ydych chi allan yn rhedeg, yn nofio, yn cerdded, neu'n seiclo... mae POPETH yn cyfrif tuag at nod 2023, sy'n anelu at gyflawni cyfanswm o 2,023 o filltiroedd ar y cyd! Mae myfyrwyr a staff wedi bod yn ymuno â sefydliadau addysg uwch eraill ac yn cofnodi eu milltiroedd yma – ymunwch â ni i gefnogi'ch milltiroedd chi!

Mae llawer mwy o gyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr a staff gymryd rhan ynddyn nhw eleni! Gallwch edrych ar Amserlen Graidd Bod yn ACTIF yma ond byddwch yn gyflym, gan fod rhai sesiynau'n llenwi'n gyflym iawn.

Yn ogystal ag amserlen graidd o weithgareddau rheolaidd ar y campws, mae'r tîm hefyd yn bwriadu trefnu digwyddiadau a gweithgareddau anhygoel i chi gymryd rhan ynddyn nhw, gan gynnwys beicio mynydd ym Mharc Margam, grwpiau rhedeg cymdeithasol, a phêl-droed Ramadan.

Rydym yn cynllunio haf o weithgareddau awyr agored hwyl a chyffrous, gan gynnwys cerdded, heicio, dringo a syrffio, felly cadwch lygad am newyddion Bod yn ACTIF! Edrychwch ar holl weithgareddau cyfredol Bod yn ACTIF drwy fynd i dudalen y digwyddiad, a chofiwch ddilyn @SportSwansea am newyddion, cyngor a diweddariadau.

Rhannu'r stori