Abaty Singleton

Mae’r Llys yn gorff mawr a ffurfiol yn bennaf. Mae’r Llys yn cynnig ffordd y gellir cysylltu diddordebau ehangach a wasanaethir gan y Brifysgol â’r Brifysgol ac mae’n darparu fforwm cyhoeddus lle gall aelodau’r Llys godi unrhyw faterion am y Brifysgol.

Caiff y Llys ei gadeirio gan Ganghellor y Brifysgol. Daw’r mwyafrif o aelodau’r Llys o’r tu allan i’r Brifysgol gan gynrychioli’r gymuned leol a chyrff penodedig eraill sydd â buddiannau yng ngwaith y Brifysgol. Mae’r aelodaeth hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith staff y Brifysgol (staff academaidd a staff nad ydynt yn staff academaidd) a chorff y myfyrwyr. Fel arfer, mae’r Llys yn cyfarfod unwaith y flwyddyn i dderbyn adroddiad blynyddol y Brifysgol a datganiadau ariannol archwiliedig y Brifysgol.

Cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y Llys ar 4ydd Chwefror 2020. Nodir cyfansoddiad a phwerau’r Llys yn yr Ordinhadau. Mae rhagor o wybodaeth am y Llys ar gael gan y Swyddfa Lywodraethu