Abaty Singleton

Yn unol â Chôd Llywodraethu Addysg Uwch y Pwyllgor Cadeiryddion Prifysgol (CUC), mae'r Cyngor yn ymgymryd ag adolygiadau effeithiolrwydd rheolaidd o'r Cyngor ac yn 2023, comisiynwyd Adolygiad Allanol o Effeithiolrwydd y Cyngor, a gynhaliwyd gan AUA Consulting. 

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi maes o law ond gellir gofyn am gael copi gan Ysgrifennydd y Brifysgol, Ms Louise Woollard, y gellir cysylltu â hi drwy e-bostio L.A.Woollard@abertawe.ac.uk

Comisiynwyd Adolygiad Allanol blaenorol o Effeithiolrwydd y Cyngor yn 2019, a gynhaliwyd gan Mr James O'Kane, cyn Gofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol y Frenhines, Belfast.

Amserlennir cynnal yr adolygiad nesaf o effeithiolrwydd llywodraethiant yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26. 

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i barhau i fod yn gydnaws â chodau llywodraethiant perthnasol a gweithredu argymhellion CCAUC, Côd Llywodraethiant Addysg Uwch CUC (Medi 2020) a’r Siarter a’r Ymrwymiadau Llywodraethiant, yn dilyn yr adolygiad annibynnol o lywodraethiant yng Nghymru, o dan arweiniad Gillian Camm ym mis Rhagfyr 2019