Yn unol â Chôd Llywodraethu Addysg Uwch CUC, mae’r Cyngor yn cynnal arolygiadau effeithiolrwydd rheolaidd ac, yn 2019, comisiynwyd Adolygiad Allanol o Effeithiolrwydd y Cyngor, a gynhaliwyd gan Mr James O'Kane, cyn Gofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol y Frenhines Belfast.
Canfu’r Adolygiad Allanol hwn fod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol ac yn effeithiol fel corff llywodraethu’r Brifysgol.
Adnabu’r adroddiad nifer o argymhellion er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i alinio â’r Côd ac i sicrhau bod y Cyngor yn addas at y diben, ac mae’r mwyafrif o’r rhain wedi cael eu gweithredu.
Amserlennir cynnal yr adolygiad nesaf o effeithiolrwydd llywodraethiant yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23.
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i barhau i fod yn gydnaws â chodau llywodraethiant perthnasol a gweithredu argymhellion CCAUC, Côd Llywodraethiant Addysg Uwch CUC (Medi 2020) a’r Siarter a’r Ymrwymiadau Llywodraethiant, yn dilyn yr adolygiad annibynnol o lywodraethiant yng Nghymru, o dan arweiniad Gillian Camm ym mis Rhagfyr 2019.