Y tu allan i’r Abaty

Mae Dyfarniad y Canghellor yn cydnabod aelodau o gymuned staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at fywyd, enw da neu effaith ein Prifysgol.

Mae dau ddyfarniad ar gael, un ar gyfer aelod o staff ein Prifysgol ac un ar gyfer myfyriwr.

Croesewir enwebiadau gan bob rhan o gymuned Prifysgol Abertawe. Bydd y beirniaid yn chwilio am enghreifftiau o gyfraniadau rhagorol at y Brifysgol ei hun a/neu'r rhanbarth, Cymru neu'r byd yn ehangach. Dylai ceisiadau ymwneud ag o leiaf un o bileri strategol allweddol ein Prifysgol: cenhadaeth ddinesig, profiad y myfyrwyr, dysgu ac addysgu, ymchwil a mentergarwch. 

Bob blwyddyn, cyflwynir Dyfarniad y Canghellor ar gyfer gwaith sy'n cyd-fynd â thema benodol. Ar gyfer dyfarniadau 2022, dylai ceisiadau ddangos cyfraniadau rhagorol at rôl ein Prifysgol fel hyrwyddwr treftadaeth a diwylliant yng Nghymru.

Bydd yr enillwyr yn derbyn tystysgrif a chaiff coeden ei phlannu ar eu rhan. Ychwanegir eu henwau at restr anrhydeddau Dyfarniadau'r Canghellor yn y Neuadd Fawr a Thŷ Fulton, a chyhoeddir proffiliau o'r derbynwyr ar ein gwefan.

Gwahoddir yr enillwyr hefyd i fynd i'r cinio graddio i Gymrodorion Er Anrhydedd, lle dethlir eu cyfraniad.

Nodiadau arweiniol

Croesewir enwebiadau gan yr holl staff a myfyrwyr, boed yn unigolion neu'n dimau.

Derbynnir enwebiadau am unrhyw weithgarwch yr ymgymerwyd ag ef yn ystod y ddwy flynedd flaenorol sy'n cyd-fynd â thema'r dyfarniad.

Ni ddylai ceisiadau fod yn hwy na 2,000 o eiriau a dylent gynnwys

  • Crynodeb byr o'r cyfraniad;
  • Disgrifiad o'r hyn a gyflawnwyd gan yr enwebai a'r canlyniad o ran buddion i'r Brifysgol, i'r rhanbarth neu i'r unigolion y mae'r gwaith wedi effeithio arnynt;
  • Disgrifiad o gynaliadwyedd y gwaith a sut gellir ei ddatblygu;
  • Gellir cyflwyno tystiolaeth o'r cyfraniadau (e.e. sylwadau) fel atodiad ac ni chânt eu cynnwys yn y cyfrif geiriau.

Bydd Is-grŵp o’r Pwyllgor Dyfarniadau Er Anrhydedd yn derbyn enwebiadau, yn eu hasesu ac yn llunio rhestr fer a bydd y Canghellor yn dewis y ddau gais buddugol.

Sylwer y dylai ymgeiswyr fel arfer gael eu henwebu gan eu Deon Gweithredol a'u Dirprwy Is-ganghellor, Pennaeth eu Hysgol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Proffesiynol, neu Swyddog Undeb y Myfyrwyr. Felly, cynghorir ymgeiswyr i drafod eu ceisiadau â'u rheolwyr llinell cyn eu cyflwyno.

Y Camau Nesaf

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais: Dyfarniad y Canghellor - Ffurflen Gais

Llinell amser

24 Mehefin 2022: Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau

Gorffennaf 2022: Bydd Is-grŵp o’r Pwyllgor Dyfarniadau Er Anrhydedd yn derbyn enwebiadau, yn eu hasesu ac yn llunio rhestr fer a bydd y Canghellor yn dewis y ddau gais buddugol.

Gorffennaf 2022: Cyhoeddi enwau'r enillwyr a'u proffiliau ar wefan y Brifysgol.

Gorffennaf 2022: Cyflwyno'r wobr yn ystod seremoni raddio a gwahoddiad i ginio graddio ar gyfer gwesteion pwysig