Y tu allan i’r Abaty

Mae'r Athro'r Fonesig Jean Thomas yn Athro Emeritws Biocemeg Facrofoleciwlaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt a bu gynt yn Feistr Coleg St Catharine, Caergrawnt.

Mae'r Fonesig Jean yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe (Coleg Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru, fel yr oedd ar y pryd). Graddiodd ym 1964 â gradd BSc Dosbarth Cyntaf mewn Cemeg a dyfarnwyd Gwobr Ayling iddi. Ym 1967 enillodd PhD mewn Cemeg am ei thraethawd ymchwil, Hydroxyl-carbonyl interaction in cyclic peptides and depsipeptides, a’r  Wobr Hinkel.

Yn union wedi hynny, derbyniodd Gymrodoriaeth Ymchwil Goffa Beit yn Labordy Bioleg Foleciwlaidd yr MRC yng Nghaergrawnt. Ddwy flynedd wedi hynny, ymunodd â staff yr Adran Fiocemeg, Prifysgol Caergrawnt, lle mae hi wedi parhau i weithio ar gromatin (y cymhlyg DNA a phroteinau sy'n ffurfio cromosomau) a phroteinau sy'n rhwymo cromatin.

Yn 2007, cafodd ei hethol yn 38ain Meistr Coleg St Catherine, Caergrawnt a bu’n gwasanaethu yn y rôl honno am 10 mlynedd – y fenyw gyntaf (a'r unig un o hyd) i fod yn Feistr y Coleg a sefydlwyd ym 1473.

Mae hi wedi derbyn gwobrau ac anrhydeddau niferus drwy gydol ei gyrfa, ac mae wedi gwasanaethu ar lawer o gyrff cenedlaethol.  Mae hi'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (fe'i hetholwyd ym 1986), o Academi'r Gwyddorau Meddygol ac o Gymdeithas Ddysgedig Cymru (derbyniodd Fedal Frances Hoggan, y tro cyntaf i'r fedal gael ei dyfarnu, yn 2016); mae hi hefyd yn aelod o Sefydliad Bioleg Foleciwlaidd Ewrop (EMBO) ac o Academia Europaea. Mae ganddi raddau er anrhydedd a chymrodoriaethau o sawl Prifysgol a Choleg, gan gynnwys Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, a ddyfarnwyd iddi ym 1987 ac mae hi'n Feinciwr er Anrhydedd yn y Deml Ganol.

Bu'n Ysgrifennydd Biolegol ac yn Is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol, yn Llywodraethwr y Wellcome Trust ac yn aelod o Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig;  hefyd, inter alia, bu'n aelod o gynghorau SERC a’r EPSRC ac, yn fwy diweddar, o Bwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol Cymru. Mae hi wedi bod yn Llywydd y Gymdeithas Fiocemegol a'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol (dyfarnwyd medal y Llywydd iddi yn 2020) ac ers 2013, bu'n aelod o Ymddiriedolwyr y Wolfson Foundation.

Cafodd ei hurddo'n Gadlywydd Urdd Ardderchocaf yr Ymerodraeth Brydeinig  (CBE) ym 1993 am wasanaethau i Wyddoniaeth ac yn 2005, yn Fonesig Gadlywydd Urdd Ardderchocaf yr Ymerodraeth Brydeinig  (DBE) am ei gwasanaethau i Fiocemeg. 

Ar adeg ei phenodi yn 2018, meddai'r Fonesig Jean:  “Pan raddiais o Brifysgol Abertawe flynyddoedd maith yn ôl, ni allwn fod wedi dychmygu un diwrnod y byddai gen i'r fraint o wasanaethu fel ei Changhellor. Mae'r Brifysgol yn parhau i gyflawni ac i ehangu, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r uchelgais cyffrous hwn wrth i ni agosáu at y Canmlwyddiant yn 2020.”

Ar adeg eo hail-benodi yn 2022, meddai'r Fonesig Jean: "Mae'n anrhyddedd mawr gennyf gael fy ail-benodi'n Ganghellor o 1 Ionawr 2022. Mae fy nghysylltiad a'r Brifysgol yn bwysig iawn i mi, a chyda balchder mawr, bum yn bresennol yn Seremoni Wobrwyo Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar, pan ddyfarnwyd gwobr i'r Brifysgol am 'waith trawsnewidiol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg solar ledled y byd'. Roedd y newyddion da am y wobr hon yn ddechrau ardderchog i 2022, ac edrychaf ymlaen at ddathlu rhagor o lwyddiannau ym mhob agwedd ar waith y Brifysgol yn y dyfodol. Mae ganddi gryfderau mewn llawer o feysydd".