Golygfa o’r Abaty o’r ddôl

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn Brifysgol ddwyieithog. Mae darpariaeth Gymraeg y Brifysgol i’w gweld mewn ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, yn ogystal ag yn ei darpariaeth academaidd.  

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod fframwaith cyfreithiol er mwyn cyflwyno dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â Safonau ymddygiad ar y Gymraeg. Ar 1 Ebrill 2018 caiff Cynllun Iaith Gymraeg cyfredol y Brifysgol ei ddisodli gan Safonau'r Gymraeg. Golyga hyn fod gan fyfyrwyr a’r cyhoedd hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gysylltu â’r Brifysgol.

Mae'r dyletswyddau sy'n deillio o'r Safonau yn golygu dylai sefydliadau beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ynghyd â hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg (sef ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd).

Mae rhagor o wybodaeth am Safonau’r Gymraeg ar gael fan hyn

Ceir gwybodaeth am ddarpariaeth academaidd Gymraeg ar dudalennau gwe Academi Hywel Teifi