Golygfa o’r Abaty o’r ddôl

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo urddas pob myfyriwr ac aelod staff drwy ddileu pob math o ymddygiad sarhaus i sefydlu amgylchedd gweithio a dysgu heb unrhyw aflonyddwch ac ymddygiad ymosodol.

Mae ein cod ymarfer yn berthnasol i fyfyrwyr a staff, mae'n cynnwys datganiad polisi cyffredinol sy'n tynnu sylw at swyddogaethau a chyfrifoldebau pawb sy'n gweithio ac astudio yn y Brifysgol - gan roi enghreifftiau o'r gwahanol fathau o aflonyddu ac yn amlinellu'r polisi sydd i’w ddefnyddio wrth ymdrin ag aflonyddu.

Gallwch ddarllen cod ymarfer y brifysgol ar urddas yn y gwaith ac wrth astudio Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio