Golygfa o’r Abaty o’r ddôl

Mae'r Brifysgol yn cydnabod pob math o fynegiant yn unol â'r gyfraith. Atgyfnerthir yr egwyddor hon gan Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986 sy'n gofyn bod y Brifysgol yn cymryd camau ymarferol rhesymol i sicrhau bod rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith wedi'i ddiogelu i staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o'r Brifysgol ac i siaradwyr sy'n ymweld.

Mae'r un Ddeddf yn gosod dyletswydd i sefydlu Cod Ymarfer i amlinellu'r gweithdrefnau a'r ymddygiad sy'n ofynnol gan y rhai hynny sy'n trefnu neu'n mynychu cyfarfodydd neu weithgareddau eraill. Sefydlir y Cod Ymarfer gan - a chydag awdurdod - y Cyngor fel corff llywodraethu'r Brifysgol ac mae'n berthnasol i holl adeiladau'r Brifysgol, sy'n eiddo i'r Brifysgol ac sydd wedi'u rheoli gan y Brifysgol, gan gynnwys adeiladau Undeb y Myfyrwyr, ac mae'n cynnwys pob math o gyfathrebu a mynegiant, pa bynnag gyfrwng a ddefnyddir. 

Rhyddid i Lefaru – CÔd Ymarfer