Un agwedd allweddol ar ein Dyletswydd ym Mhrifysgol Abertawe yw bod staff wedi'u hyfforddi'n briodol. I gefnogi'r agwedd hon ar y Ddyletswydd, mae'r Swyddfa Gartref wedi datblygu pecyn hyfforddi a gyflwynir ar-lein.
Cam 1: Mynediad a chwblhau hyfforddiant PREVENTar-lein. Mae'n cymryd tua 30 i 40 munud i'w gwblhau.
Cam 2: Anfonwch eich tystysgrif ar ôl cwblhau at eich rheolwr llinell cyn gynted â phosib. Bydd eich rheolwr llinell yn rhoi gwybod i dîm Dysgu a Datblygu'r Brifysgol gan ofyn i'ch cofnod hyfforddi gael ei ddiweddaru. Mae hyn yn bwysig gan fod yn rhaid i ni gofnodi a monitro'r hyfforddiant y mae staff yn ei gwblhau.
Rydym yn ymrwymedig i nodau Rhaglen Prevent, oherwydd ein barn ni yw bod Prevent yn 'Diogelu' ac yn 'Amddiffyn' y bobl fwyaf agored i niwed.