- Rhif y Swydd
- SU00266
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £25,138 i £27,979 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 21 Mai 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Chris Jones C.Jones@Swansea.ac.uk
- Julie Kennedy j.e.kennedy@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma swydd amser llawn am gyfnod penodol o 12 mis.
Rydym yn chwilio am ddechreuwr newydd i ymuno â'r tîm technegol sy'n datblygu technoleg UKSeRP (UK Secure Research Platform) sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Mae UKSeRP yn set dechnoleg sy'n helpu i storio a rhannu’n ddiogel setiau data ymchwil at ddiben cynorthwyo gweithgarwch ymchwil. Mae'r set dechnoleg yn newid yn barhaus ac ystyrir ei bod yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran arloesi. Fe'i defnyddir gan sefydliadau yn y DU ac yn fyd-eang.
Diben y rôl hon yw cynorthwyo'r tîm technegol gydag amrywiaeth o dasgau TG sylfaenol, gan gynnwys diweddaru ac ailadeiladu gweinyddion, cymorth bwrdd gwaith a gwaith cynnal a chadw arferol ar rwydweithiau. Rhoddir hyfforddiant a chymorth llawn. Dyma gyfle ardderchog i gychwyn eich gyrfa fel gweithiwr proffesiynol ym maes TG drwy feithrin eich sgiliau technegol a'ch profiad mewn amgylchedd amrywiol a chyffrous.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.