- Rhif y Swydd
- SU00225
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 28 Ebr 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 1 Mai 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Alison Davies Alison.j.davies@swansea.ac.uk
- Joanna Chapman Joanna.chapman@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Cyfrannu at ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr drwy ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau addysgu, asesu, gweinyddol a goruchwylio ar Raglen Cyn-sesiynol yr Haf, yn unol â chyfarwyddiadau’r cydlynydd, er mwyn cyfrannu at amcanion dysgu ac addysgu yr Adran Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS)
Disgwylir i Diwtoriaid Saesneg at Ddibenion Academaidd (EAP) gyflawni'r prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau canlynol:
- Disgwylir i diwtoriaid gyda chontractau amser llawn addysgu hyd at 18 awr yr wythnos.
- Mae gan staff addysgu ELTS gyfrifoldeb ar y cyd i addysgu a marcio ar ran cydweithwyr sy'n absennol oherwydd tostrwydd.
- Cynorthwyo gyda pharatoi deunyddiau addas ar gyfer yr holl ddosbarthiadau
- Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol sy’n ofynnol i gynnal cofnodion manwl presenoldeb a gwaith a gwblhawyd ym mhob dosbarth.
- Cysylltu â thiwtoriaid eraill pan fyddwch yn rhannu dosbarthiadau
- Cynnal tiwtorialau rheolaidd gyda myfyrwyr ac adrodd am broblemau i Gydlynydd y Cwrs
- Gweinyddu cyrsiau o fewn yr amserlenni gofynnol gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol, yn enwedig gofynion asesu a meini prawf ac adborth amserol ac adeiladol ar asesiadau
- Sicrhau dull cynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o hwyluso dysgu mewn ystod o fformatau cyflwyno wyneb yn wyneb ac o bosibl ar-lein fel tiwtorialau, darlithoedd, dysgu seiliedig ar broblemau, sy'n hyrwyddo cyfranogiad myfyrwyr a chyrhaeddiad deilliannau dysgu.
- Gwneud defnydd effeithiol o dechnolegau dysgu i gefnogi a gwella darpariaeth cyrsiau, trefnu cyrsiau, adborth ac asesu. Gall hyn gynnwys darpariaeth gyfunol a/neu ar-lein
- Mynd i gyfarfodydd tîm yn ôl yr angen
- Mynd ar wibdeithiau a theithiau myfyrwyr.
- Cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol y rhaglen a'r adran drwy adborth
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cynhelir cyfweliadau ar-lein dros Zoom.
Mae dyddiadau'r contract yn cynnwys rhaglen sefydlu am 2 ddiwrnod a fydd yn darparu arweiniad a chymorth ar gyfer deunyddiau ac asesiadau'r cwrs. Mae'r cyfnod sefydlu hwn yn orfodol ac yn rhan o'r contract a gynigir. Mae angen i diwtoriaid fod ar gael ar gyfer y rhaglen gyfan a byddwch yn gallu cymryd eich gwyliau cronedig ar ôl diwedd y cwrs.