Campws Singleton

Canllawiau hygyrchedd newydd i drawsnewid hygyrchedd ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio ochr yn ochr ag AccessAble i gyflwyno canllawiau hygyrchedd newydd ar gyfer yr adeiladau, y cyfleusterau a'r gwasanaethau ar ei champysau.

Mae’r canllawiau hyn, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag AccessAble, ac sydd wedi’u llywio gan adborth gan fyfyrwyr a chydweithwyr, yn darparu gwybodaeth fanwl ac ymarferol am hygyrchedd ar gyfer 76 o’r adeiladau academaidd, y gwasanaethau i fyfyrwyr, y preswylfeydd a’r cyfleusterau allweddol ar draw Campws y Bae, Campws Singleton a Pharc Chwaraeon Campws y Bae.      

Maent yn cynnwys manylion megis y canlynol: 

  • meysydd parcio a mannau gollwng hygyrch 
  • mynediad a llwybrau heb risiau 
  • mynedfeydd adeiladau a derbynfeydd 
  • lifftiau a chylchredeg mewnol 
  • toiledau a chyfleusterau newid hygyrch 
  • mannau addysgu, astudio, chwaraeon a chymdeithasu 
  • nodweddion a chyfleusterau hygyrchedd eraill. 

Mae canllawiau AbleAccess yn seiliedig ar ffeithiau ac yn fanwl iawn, gan symud ymhell y tu hwnt i ymadroddion diwerth megis “cwbl hygyrch” i roi manylion eglur ar yr hyn y gall myfyrwyr, staff ac ymwelwyr ei ddisgwyl. 

Mae’r canllawiau am ddim wedi cael eu dylunio i gefnogi pobl ag amrywiaeth eang o anghenion hygyrchedd, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion symudedd neu synhwyraidd a’r rhai hynny sy’n teimlo’n bryderus mewn amgylcheddau anghyfarwydd.  

Gellir cyrchu’r canllawiau drwy wefan AccessAble, gan eu gwneud yn hawdd eu defnyddio i gynllunio ymweliad a phan fyddwch chi ar y campws hefyd.   

Meddai Greg Ducie, Cyfarwyddwr Ystadau, Digidol a Gwasanaethau Campws , ‘‘Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod ein campysau’n hygyrch, yn groesawgar ac yn gynhwysol i bawb. Bydd ein canllawiau hygyrchedd yn darparu gwybodaeth eglur ac ymarferol i helpu myfyrwyr, staff ac ymwelwyr i gynllunio eu teithiau a defnyddio ein cyfleusterau’n hyderus. Drwy wella mynediad at wybodaeth, rydyn ni’n helpu i ddileu rhwystrau a chreu amgylchedd lle gall pawb gyfrannu’n llawn ym mywyd y Brifysgol.’ 

Meddai Dr Gregory Burke, Sylfaenydd a Chadeirydd Gweithredol, AccessAble, “Gall dechrau yn y Brifysgol, ymweld â champws newydd a mynd i ddarlith am y tro cyntaf fod yn amser cyffrous ond heriol i bawb. I fyfyriwr neu aelod staff anabl, gallwch chi ddisgwyl i’r heriau hyn gynyddu. Mae’r Canllawiau Hygyrchedd Manwl hyn yn rhannu’r wybodaeth ymarferol y mae ei hangen ar bobl er mwyn iddyn nhw gynllunio gan ddiwallu eu hanghenion eu hunain a theimlo’n fwy hyderus pan fyddant yn cyrraedd. Maen nhw’n adlewyrchu profiadau pobl anabl a gwaith gofalus ein harolygwyr hyfforddedig. 

“Mae Prifysgol Abertawe wedi mabwysiadu’r ymagwedd honno. Mewn llai na blwyddyn, rydyn ni wedi gweithio i greu 76 o Ganllawiau Hygyrchedd Manwl ar draws ei champysau a’i chyfleusterau. Mae gwneud y canllawiau hyn ar gael drwy wefan y Brifysgol yn amlygu gwybodaeth ymarferol am ddim lle mae pobl eisoes yn chwilio amdani. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i wireddu hyn.” 

Rhannu'r stori