Yr Athro Kirsti Bohata, enillydd Medal Gwen John Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Mae Medal Gwen John Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau wedi cael ei dyfarnu i'r Athro Kirsti Bohata, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru (CREW) a Chyd-gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Gweithredu ar yr Hinsawdd ym Mhrifysgol Abertawe, am ei gwaith yn hyrwyddo'r celfyddydau a'r dyniaethau, yn ogystal â'i henw da ym maes astudiaethau llenyddol.
Mae Medal Gwen John, a gyflwynir am y tro cyntaf eleni, yn cydnabod ymchwil eithriadol yr Athro Bohata, yn ogystal â'i rôl fel eiriolwr brwd dros bwysigrwydd y celfyddydau a'r dyniaethau i gymdeithas Cymru.
Mae hyn yn cael ei weld yn y rôl flaenllaw y mae hi wedi'i chwarae yn sefydlu Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (WAHA), ac yn ei chyfraniad at weithgareddau sy'n gosod y celfyddydau a'r dyniaethau wrth wraidd gwaith ar iechyd y blaned, Iaith Arwyddion Prydain, a chefnogi menywod a merched sydd wedi goroesi trais.
Mae'r angerdd hwn dros werth cymdeithasol y celfyddydau a'r dyniaethau wedi'i seilio ar yrfa ymchwil sydd wedi ei gweld hi'n cyfrannu at sicrhau £5 miliwn mewn grantiau. Mae diddordebau ymchwil yr Athro Bohata yn cynnwys ysgrifennu Cymraeg yn Saesneg, gyda phwyslais ar ddulliau rhyngddisgyblaethol o ymdrin â rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, newid hinsawdd, tirwedd a lle.
Mae hi wedi arloesi ym maes llenyddiaeth LHDTC+ yng Nghymru; enghraifft ddiweddar nodedig yw ei thrawsgrifiad golygedig o ddyddiaduron yr awdur a'r diwydiannwr o Gymru, Amy Dillwyn.
Dywedodd yr Athro Bohata: “Mae'n anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y fedal hon. Rwy'n sefyll ar ysgwyddau cewri. Mae eiriolaeth yn adeiladu ar waith gwych sy'n cael ei wneud gan eraill yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac mae WAHA yn ymdrech tîm go iawn. Yn fy ymchwil fy hun ym maes llenyddiaeth, rwyf wedi bod yn ffodus i gael mentoriaid gwych a chydweithwyr hael ym Mhrifysgol Abertawe, ym maes ysgrifennu Cymraeg yn Saesneg a thu hwnt. Diolch o galon i chi gyd.”
Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r Gymdeithas gyflwyno ei medalau ar eu newydd wedd, sydd wedi'u henwi ar ôl rhai o arloeswyr pwysicaf Cymru, a oedd i gyd yn arloeswyr yn eu meysydd ac yn aml wedi llwyddo er gwaethaf pob rhwystr.
Mae Medal Gwen John yn cydnabod pobl sydd â hanes sefydledig o ymchwil neu waith arloesol ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau yng Nghymru.
Roedd Gwen John yn un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru. Cafodd ei geni yn Hwlffordd, ac mae'n enwog am ei phortreadau, sy'n ymddangos mewn llawer o gasgliadau gorau'r byd.