Darlun: Pixabay
Mae platfform ymchwil newydd wedi lansio ym Mhrifysgol Abertawe i helpu rhaglenni ymchwil niwrolegol i reoli data cymhleth, sefydlu amgylcheddau ymchwil diogel a chreu adnoddau data gwerthfawr sy’n gallu cefnogi ymchwil yn y dyfodol.
Mae’r Platfform Data Niwrolegol (NDP) yn dod ag isadeiledd ymchwil diogel, gwasanaethau data arbenigol a llywodraethiant sefydledig ynghyd mewn amgylchedd a rennir ar gyfer ymchwil niwrolegol, gan ganiatáu i raglenni gwyddonol adeiladu ar allu profedig yn hytrach na chreu eu hisadeiledd a’u prosesau eu hunain o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r NDP yn cael ei gyflwyno gan y Platfform eYmchwil Diogel (SeRP) ac mae wedi cael ei ddatblygu ar sail mwy na degawd o brofiad o gefnogi rhaglenni ymchwil mawr ac Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy, gan gynnwys Porth Data Dementias Platform UK (DPUK).
Mae’r model newydd wedi’i ddylunio i fynd i’r afael â her gyffredin ar gyfer rhaglenni gwyddonol mawr. Mae astudiaethau cymhleth yn cynhyrchu data clinigol, delweddu, genomig, biofarcwyr a data a adroddwyd gan gyfranogwyr yn fwyfwy, ond gall sefydlu’r isadeiledd, y llywodraethiant, y prosesau a’r timau arbenigol y mae eu hangen i reoli’r data hwn gymryd llawer o amser a buddsoddiad.
Yn hytrach na phob un rhaglen yn adeiladu’r galluoedd hyn yn annibynnol, mae’r NDP yn darparu sylfaen a rennir y gellir ei defnyddio ar draws llawer o hybiau ymchwil.
Mae pob Hyb NDP yn cadw ei arweinyddiaeth wyddonol, ei hunaniaeth, ei gymuned ymchwil a’i drefniadau llywodraethiant priodol ei hun, tra mae’r NDP yn darparu’r isadeiledd a’r gallu gweithredol sy’n sylfaen i hyn.
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwr yr NDP, Emma Squires: “Mae rhai o’r rhaglenni ymchwil mwyaf cyffrous ym maes Niwrowyddoniaeth yn cynhyrchu data hynod gyfoeth a chymhleth, ond mae pob rhaglen newydd yn wynebu llawer o’r un heriau ynghylch isadeiledd, llywodraethiant, rheoli data a mynediad yn y dyfodol.
“Mae’r NDP yn golygu nad oes rhaid iddynt ddechrau o’r dechrau. Gallwn ni ddarparu sylfaen sefydledig, dibynadwy a gweithio gyda thimau gwyddonol i feithrin y gallu trin data sy’n addas i’w rhaglen.
“Yr hyn sy’n arbennig o bwysig i ni yw bod y fenter hon yn gwneud mwy na darparu mynediad at ddata ar ddiwedd astudiaeth yn unig. Gallwn ni gefnogi rhaglenni drwy gydol cylch oes y broses ymchwilio, gan eu helpu i reoli a datblygu eu data wrth i’r wyddoniaeth ddatblygu a phan fydd hi’n adeg addas, gallwn ni wneud yr adnoddau hynny ar gael at ddibenion ymchwil ehangach.”
Ychwanegodd ei chyd-gyfarwyddwr, yr Athro Simon Thompson: “Cryfder y model NDP yw bod y rhaglenni’n cadw’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw wrth iddynt elwa o isadeiledd ac arbenigedd y mae modd eu rhannu.
“Mae meithrin y galluoedd hyn unwaith, a’u datblygu ar draws llawer o hybiau, yn rhoi model mwy cynaliadwy i ni ac mae’n golygu bod datblygiadau arloesol mewn un rhaglen ymchwil yn gallu bod o fudd i raglenni eraill ar draws y platfform.
“Ein huchelgais ni yw i’r NDP ddarparu’r isadeiledd data dibynadwy sy’n hwyluso gwyddoniaeth niwrolegol uchelgeisiol, o greu setiau data newydd i ddadansoddi’n ddiogel, cydweithredu ac ailddefnyddio yn y dyfodol.”
Mae’r NDP eisoes yn cefnogi cymuned gynyddol o raglenni ymchwil niwrolegol, gan gynnwys dementia, anafiadau trawmatig i’r ymennydd, clefyd niwronau echddygol, iechyd meddwl pobl ifanc ac ymchwil i boblogaethau.
Fel rhan o’r lansiad, bydd Porth Data sefydledig y DPUK yn troi’n Hyb Dementias NDP, gan adeiladu ar waith DPUK i roi data carfanau, delweddu, genomig a chlinigol ar gael yn ddiogel ac yn hawdd dod o hyd iddo i’r gymuned ryngwladol ar gyfer ymchwil i ddementia.