Dr Geertje van Keulen (yn y canol) gyda'r cyflwynydd gwobrau Lucy Owen a chadeirydd y beirniaid Martin McHugh.
Mae academydd a anrhydeddwyd am ddod ag ymchwil, arloesedd a chymunedau ynghyd ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg technoleg a mathemateg wedi addo cryfhau'r cysylltiadau hynny a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer effaith yn y dyfodol.
Cyflwynwyd gwobr cydnabyddiaeth arbennig ac uchel ei bri i Dr Geertje van Keulen yng Ngwobrau STEM Cymru eleni, i gydnabod ei chyfraniad hirdymor at ymchwil, arloesi ac ymgysylltu â’r cyhoedd ym maes STEM, yn ogystal â hyrwyddo cynhwysiant yn y maes.
Mae Dr Van Keulen yn Athro Cysylltiol mewn biocemeg ficrobaidd yn Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe, lle mae hi'n arwain gwaith ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol sy'n rhychwantu microbioleg, bioddeunyddiau, ymwrthedd gwrthficrobaidd ac arloesi cynaliadwy.
Mae hi hefyd yn ymwneud â chyfranogiad cyhoeddus, gan gynnwys arwain Pabell Wyddoniaeth mewn tref nad oes prifysgol ganddi a Soapbox Science Swansea, sy’n cefnogi gwaith allgymorth STEM, a helpu i godi proffil menywod sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth.
Meddai: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint o’r mwyaf i mi dderbyn y wobr hon, ac er ei bod yn cydnabod cyflawniadau’r gorffennol, rwy’n ei gweld fel llwyfan ar gyfer effaith yn y dyfodol.
“Fy uchelgais yw cryfhau cysylltiadau rhwng ymchwilwyr, diwydiant, rheoleiddwyr, llunwyr polisi a chymunedau; a helpu i lunio'r broses o ddatblygu safonau ac ymagweddau rheoleiddiol Prydeinig ac Ewropeaidd ar gyfer bioffilm; cefnogi'r gymuned ficrobioleg trwy arweinyddiaeth a llywodraethiant; ac adeiladu cyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir weithio'n agos gyda STEM.
"Dros y blynyddoedd, mae fy ngwaith wedi canolbwyntio ar ddod â disgyblaethau ynghyd i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan gwmpasu microbioleg, biocemeg, bioddeunyddiau, arloesedd cynaliadwy a datblygu safonau ar gyfer bioffilmiau. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi, fy herio a fy ysbrydoli ar hyd y ffordd.
"Mae gweithio gyda chynifer o gydweithwyr, myfyrwyr, cydweithredwyr a phartneriaid talentog, a hyrwyddo eu gwaith, wedi bod yn un o freintiau mwyaf fy ngyrfa."
Mae Gwobrau STEM Cymru yn dathlu'r bobl, y sefydliadau a'r mentrau rhagorol sy'n arwain gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ledled Cymru yn flynyddol. O fusnesau sy'n datblygu technolegau newydd a sefydliadau sy'n mynd i'r afael â phrinder sgiliau, i addysgwyr llawn ysbrydoliaeth, prosiectau cymunedol ac unigolion sy'n hyrwyddo mwy o gynhwysiant.
Ychwanegodd Dr Van Keulen: "Mae gan Gymru gymuned STEM wych, ac mae'n fraint bod yn rhan ohoni. Mae'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn digwydd pan ddaw pobl, disgyblaethau a sectorau gwahanol ynghyd i fynd i'r afael â heriau cyffredin. Rwy’n annog pobl neu sefydliadau i gysylltu i drafod cyfleoedd.”
Meddai Liz Brookes, cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru: “Mae’r gwobrau’n rhoi cyfle i ni dynnu sylw at y gwaith eithriadol sy’n cael ei wneud ym mhob cwr o’r wlad, ac mae enillwyr eleni yn dangos pa mor amrywiol, uchelgeisiol a chyffrous yw cymuned STEM Cymru.”