Mae saith deg o bobl ifanc o ysgolion a cholegau ar draws de-orllewin Cymru wedi dathlu graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, mewn seremoni arbennig iawn o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Mae Camu Ymlaen yn rhaglen ehangu mynediad sy'n gweithio gyda grwpiau ar draws y rhanbarth sydd ar hyn o bryd wedi'u tangynrychioli mewn addysg uwch. Gan ganolbwyntio ar ddisgyblion blwyddyn 12, ei nod yw helpu i newid bywydau drwy wneud addysg uwch yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal a gofalwyr ifanc.
Ymunodd y graddedigion newydd â rhaglen Camu Ymlaen ym Mlwyddyn 12, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn academaidd cyn cwblhau cwrs preswyl pedwar diwrnod o hyd ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod yr haf.
Drwy gydol y rhaglen, cawson nhw eu cefnogi gan 15 o fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe a oedd wedi cwblhau'r rhaglen Camu Ymlaen yn y gorffennol. Rhannodd y myfyrwyr hyn eu profiadau o'r brifysgol a bywyd myfyrwyr gyda'r cyfranogwyr.
Cwblhaodd 112 o fyfyrwyr y rhaglen Camu Ymlaen eleni. Os byddan nhw'n dewis cyflwyno cais i Brifysgol Abertawe, bydd modd iddynt fanteisio ar ostyngiad yn y graddau sydd eu hangen arnynt er mwyn sicrhau lle ar y cwrs y maen nhw'n dymuno ei astudio.
Yn y seremoni raddio, gwahoddwyd pob myfyriwr i'r llwyfan i raddio gan dderbyn tystysgrif gan Alice Davies, Pennaeth Pontio, Perthyn a Llwyddiant Academaidd ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd Rebecca Griffiths, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad: “Roedd hi'n hyfryd dod ynghyd i wir ddathlu gwaith carfan 2026. Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi ysgogi ac ysbrydoli'r myfyrwyr hyn i gyflwyno cais i astudio yn y brifysgol.
“Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r myfyrwyr hyn yn ystod Blwyddyn 13 drwy gynnig y cyfle iddyn nhw fod yn bresennol yn ystod darlithoedd blwyddyn gyntaf ac rydyn ni'n dymuno pob lwc i'n myfyrwyr gyda'u hastudiaethau.”
Gan siarad ar y llwyfan yn ystod y seremoni raddio, dywedodd Becky Evans sy'n fyfyrwraig: "Y peth pwysicaf rydw i wedi'i ddysgu yn sgîl y rhaglen Camu Ymlaen yw nad yw'r brifysgol yn rhywbeth i'w ofni. Rydw i wedi dysgu am y cymorth gwahanol sydd ar gael os ydych chi'n ei chael hi'n anodd, sut i baratoi ar gyfer y brifysgol a beth i'w ddisgwyl. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus am gymryd y cam nesaf."
Cyflwynwyd gwobrau arbennig yn ystod y seremoni raddio yn y categorïau canlynol hefyd:
- Cyflawniad academaidd uchaf - Kalli Davies
- Presenoldeb uchaf - Xavier Wood
- Ymgysylltiad uchaf drwy'r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach a Chamu Ymlaen - Alana Moreton
Mae graddedigion rhaglen Camu Ymlaen 2026 yn dod o'r ysgolion a'r colegau canlynol:
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Castell-nedd Port Talbot
- Ysgol Harri Tudur
- Ysgol Dyffryn Aman
- Ysgol Maesteg
- Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
- Ysgol Gyfun Cynffig
- Coleg Cymunedol y Dderwen
- Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
- Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
- Ysgol Gyfun Treforys
- Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff
- Ysgol yr Esgob Gore