Dau blentyn yn sefyll o flaen bwrdd yn gwrando ar ddyn yn siarad gyda llun mewnosodedig o fachgen bach yn cyffwrdd ag ardal llachar ar wal fewnol.

Mae dau brosiect sydd â'r nod o wneud casgliadau Prifysgol Abertawe yn fwy hygyrch a difyr i staff, myfyrwyr a'r gymuned wedi sicrhau hwb ariannol gwerth £350,000.

Mae Archifau Richard Burton a'r Ganolfan Eifftaidd yn y Brifysgol ymhlith 31 o brosiectau ledled Cymru sydd wedi cael cyfran o gyllid gwerth £5.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ganolfan Eifftaidd arobryn wedi derbyn £199,945 i gwblhau'r trawsnewidiad ffisegol, digidol a diogelwch o oriel y Tŷ Marwolaeth. Mae buddsoddiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Wolfson, a Sefydliad Garfield Weston, wedi golygu bod gwaith adnewyddu helaeth eisoes wedi'i wneud.

Mae hyn yn cynnwys gosod nenfwd bwaog ysblennydd sy'n dathlu staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr y ganolfan mewn hieroglyffau. Bydd y cyllid diweddaraf yn talu am gam olaf ailddatblygu’r oriel:

  • Casys arddangos newydd ychwanegol o safon gadwraeth;
  • Gosod technoleg ymgolli yn yr ystafell mymïo; a
  • Gweithredu mesurau diogelwch ychwanegol.

Yn y cyfamser, mae Archifau Richard Burton wedi sicrhau £150,649 a fydd yn cael ei ddefnyddio i greu gofod arddangos pwrpasol ger mynedfa Llyfrgell Parc Singleton y Brifysgol. Bydd hyn yn cynnwys casys arddangos newydd a thechnoleg tafluniad sy’n gyfunol yn ddigidol i arddangos casgliadau a gedwir yn bennaf yn Archifau Richard Burton.

Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno deunydd a gedwir yng nghasgliadau llyfrgell ac amgueddfa arbennig eraill y Brifysgol megis Llyfrgell Glowyr De Cymru a chasgliadau Llyfrau Prin. 

Meddai Sian Williams, Pennaeth Ymgysylltu a Churadura Casgliadau Diwylliannol Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi sicrhau dau ddyfarniad mor arwyddocaol. Gyda'i gilydd byddant yn ein galluogi i wneud hyd yn oed mwy o'n Casgliadau Diwylliannol yn hygyrch, yn ddiddorol, ac yn berthnasol i holl aelodau'r Brifysgol a chymunedau ehangach, gan gynnwys y rhai sydd â chyfleoedd cyfyngedig ar hyn o bryd i ryngweithio â threftadaeth ddiwylliannol.” 

Meddai Heledd Fychan, Y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon: “Mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau wrth wraidd ein cymunedau ledled Cymru. Dyma leoedd lle mae pobl yn cysylltu â'n diwylliant a'n hanes, lle mae plant yn darganfod cariad at ddarllen, a lle mae pobl hŷn yn rhannu eu hatgofion. Maent yn lleoedd y dylai pawb deimlo'n gartrefol ynddynt.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan warchod casgliadau hanfodol, gwella mynediad a sicrhau bod ein mannau diwylliannol yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Dysgwch ragor am Gasgliadau Diwylliannol Abertawe

 

Rhannu'r stori