Bydd gan Brifysgol Abertawe rôl allweddol wrth werthuso ymagwedd arloesol at gymorth iechyd meddwl ar draws Cymru sy'n ceisio gwella mynediad, profiad cleifion a chanlyniadau ar gyfer pobl y mae angen gofal arnynt.
Mae'r gwerthusiad cenedlaethol hwn, dros bedair blynedd, o wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored wedi sicrhau grant rhaglen ar gyfer ymchwil gymhwysol gwerth £3.4m, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Daw'r symudiad i wasanaethau mynediad agored, a luniwyd i roi cymorth cyflymach a mwy hyblyg i bobl pan fydd ei angen arnynt, mewn ymateb i alw cynyddol ac amserau aros hir am gymorth iechyd meddwl.
O dan y model newydd, bydd pobl yn gallu cael mynediad at gymorth heb ddilyn llwybrau atgyfeirio traddodiadol, cael help ar yr un diwrnod y maen nhw'n gofyn amdano a dewis y math o gymorth sy'n diwallu eu hanghenion orau.
Meddai Katherine Cullen, o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe: "Dyma gyfle gwych i ymchwilwyr SAIL a Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe fod yn rhan o waith ymchwil deinamig i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru i drawsnewid gofal iechyd meddwl yng Nghymru."
Bydd Banc Data SAIL, fel yr Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy dros Gymru, yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu mynediad diogel at ddata anhysbys cysylltiedig ar raddfa'r boblogaeth i gefnogi'r gwaith o werthuso'r rhaglen hon.
Gan ddefnyddio Banc Data SAIL, bydd y rhaglen yn sefydlu llinell sylfaen genedlaethol ar gyfer defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl cyn gweithredu’r model newydd, drwy ddefnyddio cofnodion iechyd cysylltiedig o’r 10 mlynedd diwethaf. Bydd dadansoddiad pellach yn cyfuno data presennol SAIL â data newydd o fyrddau iechyd Cymru.
Meddai Ashley Akbari, Athro Ymchwil Gwyddor Data Poblogaethau a Phennaeth Gwasanaethau Defnyddwyr a Chymorth Data SAIL: "Drwy ddarparu’r Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy ac arbenigedd mewn caffael a chysylltedd data, bydd Banc Data SAIL yn cynnig darlun cynhwysfawr o sut mae gwasanaethau iechyd meddwl mynediad agored yn cael eu gweithredu a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i bobl.
“Un o gryfderau pennaf SAIL yw ein gallu i ddod â data iechyd a gweinyddol anhysbys ynghyd ar raddfa genedlaethol, gan alluogi dadansoddiad hydredol cadarn na fyddai’n bosib fel arall. Gan weithio gyda’n partneriaid, rydym yn gallu cefnogi’r gwerthusiad cyntaf o’i fath hwn a fydd yn llywio polisi iechyd meddwl yn y dyfodol ac yn gwella canlyniadau i gymunedau ledled Cymru.”
Arweinir gwerthusiad y rhaglen Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad Agored gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Treialon Ymchwil ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Northumbria yn Newcastle, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a ProMo-Cymru.
Gyda chymorth grant yr NIHR, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i brofi system iechyd meddwl mynediad agored sydd â’r potensial i drawsnewid canlyniadau iechyd meddwl.
Bydd gan bobl â phrofiad bywyd ran ganolog drwy gydol y gwaith ymchwil drwy banelau cleifion a grwpiau rhanddeiliaid, gan gyfeirio’r astudiaeth a sicrhau bod y gwaith yn adlewyrchu anghenion cymunedau ar draws Cymru.
Mae’r gwerthusiad yn cefnogi’r gwaith o roi Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru 2025 - 2035 ar waith, sy’n cynnwys ymrwymiad i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl mynediad agored.