Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod pobl sydd ag ADHD yn fwy tebygol o ddioddef trais a mynd i adrannau brys mewn ysbytai.
Edrychodd ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerefrog ar sut roedd diagnosisau niwroddatblygiadol yn gysylltiedig â phresenoldeb mewn adrannau brys o ganlyniad i drais.
Roedd y tîm wedi dadansoddi data poblogaeth gan drigolion yng Nghymru rhwng 2012 a 2024, ac wedi ystyried ystod o nodweddion iechyd a demograffig-gymdeithasol cleifion, a all fod yn gysylltiedig â'u presenoldeb mewn adran brys o ganlyniad i drais.
Meddai'r Athro Simon Moore, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'n hysbys bod camddefnyddio alcohol, cyffuriau ac iechyd meddwl gwael eisoes wedi cael eu cysylltu â phrofiad cynyddol o drais. Roedden ni eisiau yn well a oedd diagnosisau niwroddatblygiadol hefyd yn gysylltiedig â phresenoldeb mewn adrannau brys o ganlyniad i drais."
Canfu’r tîm fod risg uwch i bobl sydd ag ADHD, anhwylderau personoliaeth ac anawsterau dysgu o ymweld ag adrannau brys o ganlyniad i drais.
Fodd bynnag, roedd anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn lleihau’r risg o fynd i adrannau brys o ganlyniad i drais.
Er nad yw'r canfyddiadau'n awgrymu bod diagnosis niwroddatblygiadol ar ei ben eu hun yn arwain at brofiad o drais, maen nhw'n awgrymu bod cyfleoedd i Dimau Atal Trais mewn adrannau brys nodi cleifion sydd yna o ganlyniad i drais, y bregusrwydd seicogymdeithasol sy'n cyfrannu at eu profiadau o drais ac felly gweithio gyda sefydliadau eraill i gleifion gael cymorth gwell.
Meddai'r Athro Sinead Brophy, o’r Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Gall gwasanaethau atal trais mewn ysbytai nodi pobl sydd â niwroamrywiaeth ac mae pobl niwrowahanol yn defnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae hyn yn dangos bod buddsoddi yn y rhaglenni hyn yn ddull ar sail tystiolaeth o sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu cefnogi pan fydd ei angen fwyaf arnynt.
Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan y Ganolfan ar gyfer Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Caerefrog, Prifysgol Abertawe a'r Grŵp Ymchwil i Drais yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a'r Uned Datblygu mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol ym Mhrifysgol De Cymru.