Menyw yr paratoi potel o laeth fformiwla

Llun: Shutterstock

Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n torri tir newydd wedi dangos yr effaith ddifrifol y mae'r cynnydd sylweddol ym mhrisiau fformiwla llaeth babanod yn ei chael ar iechyd, cyllid a lles meddyliol rhieni a phlant yn y DU.

Wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, yr astudiaeth ymchwil hon yw'r un gyntaf o'i bath yn y DU. Mae ei chanfyddiadau'n datgelu bod teuluoedd yn mynd i ddyled nad oes modd ei rheoli, yn mabwysiadu arferion bwydo - er eu bod yn gyndyn i'w wneud - gan wybod y gallent niweidio eu babanod, a hyd yn oed yn dwyn fformiwla o siopau os nad oes ganddynt obaith o'i chael fel arall.

Gan ddefnyddio arolygon a chyfweliadau i archwilio profiadau 281 o rieni sydd mewn trafferthion ariannol, canfu'r astudiaeth fod straen ariannol wedi achosi argyfwng difrifol o bryder, euogrwydd ac unigedd ymhlith rhieni.

Soniodd bron pob rhiant a atebodd yr arolwg am niwed i'w iechyd meddwl. I rai, mae'r gofid mor ddifrifol, mae wedi arwain at deimladau o edifeirwch am gael baban. Rhannodd un o'r cyfranogwyr: "Weithiau dwi'n difaru cael y babi hwn a dwi'n teimlo'n ofnadwy am feddwl y meddyliau hyn achos dwi'n ei charu hi cymaint ond dwi ddim yn fam dda iddi.”

Soniodd rhieni am amrywiaeth o strategaethau eithafol i ymdopi â chost uchel fformiwla:

  • Niwed i ddiogelwch babanod: Roedd bron 40% o'r rhieni wedi troi at arferion bwydo anniogel, gan gynnwys ailddefnyddio gweddillion fformiwla, glastwreiddio fformiwla a lleihau sterileiddio.
  • Aberthau personol eithafol: Dywedodd mwy na thraen (37%) o'r rhieni nad oeddent yn gwresogi eu cartrefi, roedd 43% yn hwyr yn talu biliau a bron hanner (47%) wedi mynd i ddyledion y mae'n anodd eu had-dalu. I 21% o’r mamau, roedd rhaid iddynt gwtogi eu habsenoldeb mamolaeth a dychwelyd i'r gwaith yn gynnar.
  • Dewisiadau rhatach: Roedd bron hanner (48%) o'r teuluoedd wedi cyflwyno bwyd soled cyn bod eu baban yn barod, neu wedi newid i laeth rhatach a fwriedir ar gyfer babanod hŷn (45%)
  • Y dewis olaf: Gan wynebu diobaith llwyr, roedd 10% o'r rhieni wedi mynd â fformiwla o siop heb dalu.

Meddai Amy Brown, Athro Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe a arweiniodd yr astudiaeth: "Roedd prisiau fformiwla babanod yn uchel cyn yr argyfwng costau byw a gwelwyd cynnydd o hyd at 45% rhwng 2021 a 2023. Nododd adroddiad diweddar gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gynnydd sylweddol ym mhrisiau fformiwla babanod ac elw eithriadol o uchel, sef rhwng 50% a 75%.

"Mae hyn yn fater difrifol, achos does dim dewis gan bobl a ddylen nhw brynu fformiwla babanod neu beidio. Os nad yw babanod yn cael eu bwydo ar y fron, neu eu bwydo ar y fron yn llwyr, mae angen fformiwla babanod i'w helpu i dyfu a datblygu. Mae'r newidiadau cyflym hyn yn y farchnad fformiwla yn peri pryder ac maen nhw'n cyd-fynd â'r argyfwng costau byw ehangach sy'n achosi trafferthion ariannol i lawer o deuluoedd eisoes.”

Mae mwy na hanner o'r babanod yn y DU yn cael fformiwla yn ystod eu hwythnos gyntaf, ac mae 88% yn cael rhywfaint o laeth fformiwla erbyn iddynt gyrraedd chwe mis oed. Mae aelwydydd incwm isel yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio fformiwla i fwydo eu babanod. Yn fyd-eang, mae llai na hanner o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn unig am chwe mis cyntaf eu bywydau.

Roedd llawer o'r mamau a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn awyddus i fwydo eu baban ar y fron ond nid oedd y cymorth i wneud hyn ar gael. O ganlyniad, roeddent yn teimlo'n hynod euog, yn ofidus a’u bod wedi methu am yr eilwaith pan gawsant drafferthion fforddio'r fformiwla roedd ei hangen ar eu baban.

Ychwanegodd yr Athro Brown: "Roedden ni'n disgwyl i'n hymchwil adlewyrchu rhai o'r profiadau roedden ni wedi bod yn eu gweld yn y cyfryngau, ond roedd hi'n sioc sylweddoli cynifer o deuluoedd roedd hyn yn effeithio arnyn nhw a pha mor ddwfn.

"Disgrifiodd mamau sut roedd diffyg cymorth a gweithredu ar y mater wedi eu gadael yn dorcalonnus a theimlo eu bod wedi methu. Roedd rhai o'r farn bod hyn wedi achosi iselder ôl-enedigol, yn enwedig pan oedden nhw wir eisiau bwydo ar y fron, ac yn teimlo eu bod wedi methu eu baban ddwywaith.

"Mae ein hymchwil yn dangos bod angen brys am gymorth mwy holistaidd ym maes bwydo babanod, sy'n sicrhau bod mwy o fenywod sydd eisiau bwydo ar y fron yn gallu gwneud hynny, a bod y rhai hynny sy'n defnyddio fformiwla yn gallu cael gafael ar gynnyrch fforddiadwy sy'n rhoi babanod a rhieni'n gyntaf. Byddai hyn yn helpu i sicrhau gwell diogelwch bwyd i fabanod, gan amddiffyn iechyd a maeth babanod, ond datblygiad a lles ehangach teuluoedd hefyd."

Wedi'i chyhoeddi yn Maternal and Child Nutrition cynhaliwyd yr astudiaeth 'Infant formula affordability negatively impacts parent wellbeing, financial security and safe feeding practices in the UK' ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Hertfordshire, First Steps Nutrition Trust, Leicester Mammas, y Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol ac Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Newcastle upon Tyne.

 

Rhannu'r stori