Delwedd graffig o bwyntiau mewn cylch gyda chod deuaidd

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi arwain astudiaeth Ewropeaidd fawr sy'n archwilio sut mae amgylchiadau economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar oroesiad ymhlith plant a anwyd ag anomaleddau cynhenid sylweddol.

Defnyddiodd y tîm Fanc Data SAIL yn y Brifysgol, er mwyn cynnal yr ymchwil, ac mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi yn PLOS One.

Roedd yr ymchwil yn rhan o gydweithrediad EUROlinkCAT a dadansoddodd ddata gan fwy na 47,000 o blant ag anomaleddau cynhenid sylweddol ar draws deg cofrestr anomaleddau cynhenid mewn saith gwlad yn Ewrop.

Drwy gysylltu cofnodion iechyd a gweinyddol yn ddiogel ym mhob gwlad a oedd yn cymryd rhan, roedd modd i'r ymchwilwyr archwilio sut mae cyfraddau marwolaethau yn ystod plentyndod yn amrywio yn unol â statws economaidd-gymdeithasol gan lynu wrth safonau llym o ran preifatrwydd a llywodraethiant data.

Darganfu'r astudiaeth fod plant ag anomaleddau cynhenid sylweddol o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig o ran statws economaidd-gymdeithasol yn llawer mwy tebygol o farw o’u cymharu â'r rhai hynny o'r cefndiroedd lleiaf difreintiedig. Er y bu gwahaniaethau amlwg yn ystod babandod, roedd y gwahaniaethau hyn yn fwy amlwg rhwng un oed a deg oed, gan amlygu dylanwad ffactorau cymdeithasol ac economaidd ar ganlyniadau iechyd.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro Sue Jordan: "Roedd y gwahaniaethau mewn cyfraddau marwolaethau rhwng cefndiroedd tlawd a chyfoethog yn fwy ar ôl y flwyddyn gyntaf, pan fo gofal yn dibynnu'n llai ar wasanaethau acíwt ac yn dibynnu'n fwy ar ofal sylfaenol a chymunedol. Dim ond yng Nghymru ac Wcráin roedd y gwahaniaethau'n gyson ym mhob cymhariaeth - sef y gwledydd sydd â'r cynnyrch domestig gros isaf y pen.

“Gobeithiwn y bydd y canfyddiadau hyn yn ysgogi ymdrech i archwilio’r adnoddau a ddyrannir i blant sydd ag anomaleddau cynhenid ac sy'n byw mewn tlodi."

Mae'r ymchwil hon yn dod ag arbenigwyr o Abertawe a Gwasanaeth Cofrestru a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â sefydliadau Ewropeaidd a sefydliadau iechyd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Eidal, y Ffindir, Wcráin, Malta, Sbaen a Denmarc.

Yng Nghymru, roedd yr ymchwil yn bosibl o ganlyniad i Fanc Data SAIL, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n sicrhau bod gan ymchwilwyr fynediad diogel at ddata di-enw ar raddfa'r boblogaeth y gellir ei gysylltu.

Dywedodd Dr Hywel Turner Evans o Fanc Data SAIL: "Gan ddefnyddio data o saith gwlad yn Ewrop, gwnaethon ni ddarganfod bod plant sydd ag anomaleddau cynhenid sylweddol yn wynebu risg uwch o farwolaeth os oedden nhw'n dod o gefndiroedd mwy difreintiedig. Fodd bynnag, ni welwyd hyn yn Denmarc, sy'n awgrymu bod modd osgoi'r anghydraddoldebau hyn. Efallai y gall gwledydd sy'n lleihau effaith tlodi ar iechyd plant gynnig gwersi gwerthfawr i lunwyr polisi i wella bywydau mewn gwledydd eraill."

Ar draws y gwledydd a oedd yn rhan o'r astudiaeth, roedd plant yn y grwpiau mwyaf difreintiedig yn wynebu risg a oedd 47% yn uwch o farw yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd o’u cymharu â phlant yn y grwpiau mwyaf cyfoethog. Rhwng un oed a deg oed, gwnaeth y gwahaniaethau yn y tebygolrwydd o farw gynyddu ymhellach, ac roedd marwolaethau oddeutu dwywaith yn uwch ymhlith y plant mwyaf difreintiedig.

Er bod cryfder y cysylltiadau hyn yn amrywio rhwng gwledydd, roedd Cymru ymhlith y rhanbarthau lle roedd anfantais economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig yn gyson â chyfraddau marwolaethau uwch yn ystod babandod ac yn hwyrach yn ystod plentyndod.

Hefyd, darganfu'r ymchwilwyr fod cyfraddau marwolaethau yn uwch ymhlith plant a anwyd i bobl o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn y gwledydd lle roedd data am genedligrwydd ar gael, ond ni nodwyd cysylltiad clir rhwng statws priodasol y fam a marwolaethau yn ystod plentyndod.

Dywed yr awduron fod cysylltedd diogel ar gyfer data iechyd a gweinyddol a gesglir yn rheolaidd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddeall canlyniadau hirdymor plant sy'n byw ag anomaleddau cynhenid yn well.

 

Rhannu'r stori