Enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol eleni yw’r Athro Siwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil, Arloesi a Menter), Prifysgol Abertawe.
Mae’r Athro Davies yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i ymchwil wyddonol, addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn wreiddiol o Drefdraeth yn ardal Eisteddfod y Garreg Las, mae’r Athro Davies yn ysgolhaig sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes daearyddiaeth ffisegol a newid hinsawdd. Mae hi hefyd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu addysg a gwaith ymchwil cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan bwysig o raglen yr Eisteddfod ers dros ugain mlynedd, ac am y tro cyntaf eleni mae’n cael ei chyflwyno er cof am Dr Glyn O Phillips, enillydd cyntaf y Fedal yn 2004. Cyflwynir y fedal i anrhydeddu unigolion sydd wedi creu argraff ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Athro Davies yn cael ei disgrifio fel ymchwilydd blaenllaw sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn ei maes, gan hyrwyddo cyfleoedd i fenywod mewn gwyddoniaeth ochr yn ochr â’i gwaith academaidd. Mae hi’n angerddol dros gyfathrebu gwyddoniaeth mewn ffordd sy’n hygyrch ac ysbrydoledig, ac mae wedi bod yn rhan o sefydlu SwanStemWomen, menter sy’n cynnig mentora, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio i gefnogi menywod mewn STEM.
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae hon yn anrhydedd gwbl haeddiannol i'r Athro Siwan Davies. Fel arweinydd ymchwil sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ar newid hinsawdd, mae hi hefyd wedi sicrhau bod y Gymraeg yn greiddiol i'w haddysgu, ei hymchwil a'i gwaith cyhoeddus.
"Mae wedi llwyddo i gyflwyno gwyddoniaeth gymhleth mewn ffordd ddealladwy, ac wedi ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr a gwyddonwyr ifanc."
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Siwan Davies: "Mae'n anrhydedd mawr derbyn y fedal hon. Rwyf wedi edmygu'r rhai sydd wedi'i hennill o'm blaen, ac mae ymuno â nhw yn fraint enfawr.
"Mae ei derbyn yn Eisteddfod y Garreg Las, yn yr ardal lle cefais fy magu, yn ei gwneud yn fwy arbennig byth."
Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, cwblhaodd radd Meistr a PhD yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2004, cafodd gadair bersonol yn 2012 ac fe'i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil yn 2026.
Yn ogystal â'i gwaith ymchwil rhyngwladol ar newid hinsawdd a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae wedi goruchwylio ymchwilwyr newydd, a gwasanaethu ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau, gan gyflwyno gwyddoniaeth hinsawdd i gynulleidfaoedd eang.
Bydd yr Athro Siwan Davies yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn Sfferen, y Pentre Gwyddoniaeth, am 10.30am ddydd Iau, 6 Awst, ac yn ddiweddarach yn y Pafiliwn am 2pm.