Cwch wedi'i adael ar wlypdir sydd wedi sychu yng Nghorsydd Mesopotamaidd, de Irac, oherwydd sychder.
Mae astudiaeth bwysig newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi dangos mai rheoli i fyny'r afon yn hytrach na rheoli glawiad lleol yw’r prif beth sy’n dylanwadu ar un o wlyptiroedd mwyaf pwysig y byd.
Mae dyfodol Corsydd Mesopotamaidd Irac yn dibynnu llawer mwy ar y dŵr sy'n llifo o afonydd Tigris ac Euphrates yn hytrach na glawiad lleol, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Nature Scientific Reports, sy'n dadansoddi mwy na dau ddegawd o arsylwadau lloeren.
Mae Corsydd Mesopotamaidd, yn ne Irac, yn un o'r rhanbarthau gwlyptir mwyaf pwysig yn y byd, yn safle treftadaeth y byd UNESCO, ac yn gartref i wareiddiad a bioamrywiaeth unigryw. Er gwaethaf ymdrechion adfer eang yn dilyn ail-lifo’r corsydd yn 2003, mae'r ecosystem yn parhau dan bwysau cynyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, adeiladu argae i fyny'r afon, a rheoli dŵr yn rhanbarthol.
Yn yr astudiaeth newydd, archwiliodd ymchwilwyr newidiadau mewn llystyfiant a dŵr wyneb ar draws y corsydd rhwng 2000 a 2023 gan ddefnyddio amryfal setiau data lloeren ochr yn ochr â chofnodion glawiad a llif yr afon. Roedd y dadansoddiad yn cyfuno data gan NASA MODIS, EU Copernicus Sentinel-2, a JRC Global Surface Water, yn ogystal ag arsylwadau am lif yr afon a gwlybaniaeth i nodi'r ffactorau sy'n rheoli iechyd hir dymor y corsydd.
Dyma ganfyddiadau'r ymchwilwyr:
- Er bod llystyfiant a dŵr wyneb wedi cynyddu’n gyffredinol dros gyfnod yr astudiaeth yn dilyn adfer, tarfwyd ar yr enillion hyn yn fynych gan leihad sylweddol. Roedd y colledion mwyaf dramatig rhwng 2008-2009 a 2022-2023, sy'n cyd-fynd â sychderau, gweithrediadau argae i fyny'r afon, a phenderfyniadau rheoli dŵr yn rhanbarthol;
- Llif yr afon, yn hytrach na glawiad lleol yw'r ffactor pwysicaf wrth gadarnhau llystyfiant y corsydd. Roedd gan lif uwch yr afon gysylltiad cryf â llystyfiant iachach, ond nid oedd gwlybaniaeth leol yn cael unrhyw ddylanwad sylweddol; ac mae
- perthynas gref rhwng llystyfiant a thymheredd. Profodd ardaloedd gyda mwy o lystyfiant cors dymereddau tir is, a dilynwyd colli llystyfiant gan dymereddau uwch. Mae hyn yn awgrymu dolen adborth cadarnhaol, lle mae llai o lystyfiant yn arwain at amodau wyneb poethach, a all roi mwy o straen ar ecosystem y gwlypdir.
Mae'r canfyddiadau hyn yn amlygu pwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol rhwng gwledydd sy'n rhannu afon Tigris-Euphrates i sicrhau bod digon o ddŵr yn cyrraedd y corsydd yn ystod cyfnodau o sychder.
Meddai'r prif awdur, Akram Alqaraghuli, sy'n cwblhau PhD gyda'r Grŵp Modelu Amgylcheddol Byd-eang ac Arsylwi'r Ddaear yn Adran D Daearyddiaeth a Ffisegaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: "Mae ein canlyniadau'n dangos bod cynnal llifoedd yr afon yn hanfodol i gynnal y Corsydd Mesopotamaidd, a hefyd rôl allweddol y gwlyptiroedd i gynnal y tymheredd yn yr ardal."
Meddai'r Athro Peter North, cyd-awdur a goruchwyliwr yr ymchwil: "Mae cofnodion lloeren hir dymor yn ein caniatáu i wahanu ymyrraeth ddynol oddi wrth effaith yr hinsawdd ar yr amgylchedd. Gall yr astudiaeth hon gyfrannu at y gwaith o reoli un o adnoddau allweddol y byd, ac amlygu'r angen am gydweithredu rhyngwladol."
Mae gan y prosiect gefnogaeth Llywodraeth Irac, Google, UK NERC Canolfan Genedlaethol Arsylwi'r Ddaear, ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Gwlyptiroedd y DU.