Morgrugyn coch y coed yn cael ei ailgyflwyno i goetir ger Bridgnorth yn Swydd Amwythig. Llun: Alex Murison
Mae rhywogaeth o forgrug wedi cael ei hailgyflwyno i goetir ger Bridgnorth yn Swydd Amwythig, fel rhan o brosiect cadwraeth uchelgeisiol a arweinir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac arbenigwyr mewn cadwraeth morgrug, sef Ant Antics.
Mae dychweliad morgrugyn coch y coed yn nodi carreg filltir bwysig wrth adfer prosesau coetir naturiol a rhoi hwb i fioamrywiaeth ar draws ystad Dudmaston.
Caiff morgrug coch y coed eu hystyried yn rhywogaeth allweddol, sy'n golygu bod ganddynt rôl fawr wrth gefnogi ecosystemau iach. Mae eu presenoldeb yn helpu i gynnal cydbwysedd cynefinoedd coetir drwy ddylanwadu ar iechyd pridd, poblogaethau o bryfed, a'r gwe fwyd ehangach.
Mae'r morgrug yn darparu ffordd naturiol o ddifa plâu, gan fwyta pryfed megis lindys a llyslau sy'n gallu niweidio coed. Mae eu gweithgareddau yn helpu i reoleiddio'r poblogaethau hyn yn naturiol, gan gefnogi iechyd hirdymor y coetir.
Mae eu nythod mawr mewn siâp cromen hefyd yn gartref i lawer o fioamrywiaeth. Mae strwythurau cynnes y nythod, sydd wedi'u creu gan ddefnyddio nodwyddau pinwydd a malurion coetiroedd yn creu micro-gynefinoedd sy'n cefnogi nifer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill. Mae rhai o'r anifeiliaid hyn yn dibynnu ar gytrefi morgrug y coed er mwyn goroesi.
Fel peirianwyr ecosystemau, mae morgrug y coed hefyd yn chwarae rhan allweddol islaw llawr y goedwig. Wrth adeiladu eu nythod, maen nhw'n awyru'r pridd, yn gwella cylchu maetholion ac yn creu amodau sy'n cefnogi adfywio coetiroedd. Mae'r deunydd organig a gesglir yn eu nythod yn cronni maetholion megis nitrogen a ffosfforws, gan sicrhau eu bod ar gael yn haws i blanhigion gerllaw.
Mae morgrug coch y coed hefyd yn cyfrannu at we fwyd ehangach y coetir. Maen nhw'n darparu bwyd i adar, mamaliaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill, a gall eu nythod gefnogi rhywogaethau arbenigol a hyd yn oed weithredu fel ffordd i adar gael gwared â pharasitiaid.
Mae'r prosiect hefyd yn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth ehangach ar draws y rhanbarth, gan gynnwys gwaith adfer cynefinoedd yn Kinver Edge, y mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gofalu amdano, lle mae morgrug coch y coed yn cael eu hailgyflwyno.
Dywedodd Ewan Chapman, Rheolwr Cefn Gwlad ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae morgrug coch y coed yn chwarae rhan hollbwysig mewn ecosystemau coetiroedd. Wrth eu hailgyflwyno i Goedwig Comer, rydym yn adfer prosesau naturiol sy'n cefnogi pridd iachach, bioamrywiaeth gyfoethocach a choetiroedd sy'n fwy gwydn. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut gall gweithgarwch cadwraeth wedi'i dargedu helpu i ailadeiladu'r perthnasoedd cymhleth sy'n gwneud i'r tirweddau hyn ffynnu."
Ar draws y DU, mae morgrug coch y coed wedi dirywio o ganlyniad i golli cynefinoedd, darnio coetiroedd a newidiadau o ran rheoli tir, sydd wedi lleihau ymylon a llennyrch heulog coetiroedd maen nhw'n dibynnu arnynt. Mewn rhai rhanbarthau, maen nhw wedi diflannu'n llwyr.
Mae'r prosiect yn cynnwys trawsleoli cytrefi morgrug yn ofalus i gynefinoedd addas yng Nghoedwig Comer, lle mae amodau megis strwythur y coetir, lefelau golau haul a bwyd yn darparu'r cyfle gorau i gytrefi ymsefydlu ac ehangu.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu i gynllunio trawsgludiad y morgrug a byddant yn cefnogi monitro parhaus er mwyn deall sut mae'r cytrefi’n datblygu a sut maen nhw'n dylanwadu ar yr ecosystem sy'n eu hamgylchynu. Gweithiodd Ant Antics yn agos gyda thimau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn symud a sefydlu'r cytrefi’n ddiogel.
Ychwanegodd Dr Wendy Harris, o Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae morgrug y coed yn beirianwyr ecosystem go iawn. Mae eu nythod yn dylanwadu ar faetholion y pridd, twf planhigion a chymunedau cyfan o anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill. Mae eu hailgyflwyno yn ein galluogi ni i adfer rhywogaeth goll ac astudio sut mae eu presenoldeb yn helpu ecosystemau coetiroedd i adfer a gweithredu'n fwy naturiol dros amser.
"Efallai y bydd ymwelwyr sy'n archwilio Coedwig Comer yn dechrau sylwi ar y nythod unigryw mewn siâp twmpathau wrth i'r cytrefi ymsefydlu. Pan fo'r morgrug yn gynhyrchiol ac yn weithgar, does dim perygl os na fydd pobl yn tarfu arnynt."
Mae dychweliad y morgrug i Goedwig Comer yn ein hatgoffa y gall y rhywogaeth leiaf wneud gwahaniaeth mawr - gan helpu i ailadeiladu bioamrywiaeth, atgyweirio rhwydweithiau ecolegol a chreu tirweddau cyfoethocach ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.