Plentyn bach yn gwenu gyda tiara degan arni yn eistedd y tu mewn ochr yn ochr â menyw oedolyn yn gwenu.

Dywedodd Louise Rengozzi, sydd yn y llun gyda’i merch, Flo, fod yr arolwg wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddi. 

O ganlyniad i lwyddiant ysgubol prosiect arloesol sydd â’r nod o gefnogi iechyd a lles disgyblion ysgolion cynradd Cymru, mae’r prosiect bellach wedi cael ei ehangu i gynnwys plant oedran meithrin.

Mae Little HAPPEN yn adeiladu ar lwyddiant HAPPEN Wales a bydd yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru i wella dealltwriaeth o les a datblygiad plant yn ystod y blynyddoedd cynnar.

Mae HAPPEN – Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd – a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn darparu gwybodaeth i ysgolion cynradd i gefnogi datblygiad corfforol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion. Hyd yn hyn, mae wedi rhyngweithio â thros 40,000 o blant o dros hanner yr ysgolion yng Nghymru. 

Wrth wraidd y ddau brosiect y mae arolwg, a gaiff ei gwblhau gan ddisgyblion a rhieni, er mwyn casglu gwybodaeth am chwarae a dysgu, lles a datblygiad a bywyd teuluol.

Mae Little Happen yn gwahodd rhieni disgyblion meithrin a dosbarth derbyn rhwng tair blwydd oed a phum mlwydd oed i gwblhau arolwg a gaiff ei grynhoi gan yr ymchwilwyr. Mae’n cynnwys cwestiynau megis y canlynol:

  • Faint o amser mae eich plentyn yn ei dreulio ar sgrîn bob dydd?
  • Oes mannau awyr agored yn eich ardal lle gall plant chwarae’n ddiogel?
  • Ydych chi’n bwyta prydau bwyd yng nghwmni eich plentyn?
  • Ydych chi’n darllen gyda’ch plentyn?
  • Ydych chi’n fodlon ar ddatblygiad eich plentyn?

Mae’r tîm bellach wedi cael ei 500 o ymatebion cyntaf i’r arolwg ac mae’n dweud bod yr ymatebion wedi datgelu canlyniadau cadarnhaol ynghylch datblygiad cymdeithasol, iechyd a lles plant, yn ogystal ag ymgysylltiad cryf â meithrinfeydd ar ran teuluoedd.

Un rhiant a gwblhaodd yr arolwg yw Louise Rengozzi a ddywedodd, “Drwy gwblhau’r arolwg, ces i gyfle da i fyfyrio ar gynnydd fy mhlentyn. Roedd hi’n ddefnyddiol iawn i feddwl am sut gall meysydd gwahanol o ddatblygiad fy mhlentyn helpu gyda hyn.”

Bydd ysgolion sy’n cymryd rhan mewn Little HAPPEN yn cael adroddiad cryno ar ganfyddiadau’r arolwg ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am les a chyfleoedd i gefnogi ymgysylltiad â’r blynyddoedd cynnar a dealltwriaeth ohonynt.

 

Gall rhieni sy’n cymryd rhan yn y prosiect gael eu gwahodd i gwblhau arolwg Ages & Stages Questionnaire – dyma offeryn sgrinio datblygiadol cydnabyddedig a ddefnyddir i ddeall datblygiad plant rhwng un mis oed a phum mlwydd a hanner oed. 

Meddai Arweinydd Academaidd y Prosiect Sinead Brophy, o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, “Rydyn ni’n gyffrous ein bod ni wedi rhoi Little HAPPEN ar waith. Un o brif gryfderau’r prosiect yw’r ffaith ei fod yn adeiladu ar y perthnasoedd dibynadwy ag ysgolion a theuluoedd rydyn ni eisoes wedi’u sefydlu drwy HAPPEN Wales.

“Mae ein canfyddiadau o fudd oherwydd eu bod yn rhoi dealltwriaeth well i ni o’r problemau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth i’w plant  dyfu i fyny yng Nghymru ac maent yn ein helpu i adnabod y problemau pwysicaf.

“O ganlyniad, gall ein hymchwil helpu i lywio polisi ac ymarfer er mwyn cyfeirio cefnogaeth i wella bywydau teuluoedd a phlant sy’n tyfu i fyny yng Nghymru.”

 

Rhannu'r stori