Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, Sir Benfro, rhwng 1–8 Awst.
Mae Eisteddfod y Garreg Las wedi’i henwi ar ôl y garreg leol drawiadol sy’n rhan o’n tirwedd a’n hanes. Mae’r dalgylch yn ymestyn dros dair ardal arbennig: Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr.
Bydd prif arlwy’r Brifysgol yn y Babell Lên, fel arfer, ac yn cynnwys Darlith Goffa Hywel Teifi a gynhelir ddydd Iau 6 Awst.
Mae sesiynau’r Brifysgol yn y Babell Lên yn cynnwys:
Sgwennu yn Lleddfu Trawma | Dydd Llun, 3 Awst am 11.45am
Bydd Dr Angharad Wyn yn sgwrsio â Mari Grug ac Ifan Phillips am y broses o ysgrifennu yn dilyn profiadau trawmatig. Bydd cyfraniad arbennig ar y sgrîn hefyd gan yr Athro, y Prifardd Tudur Hallam. Trefnir ar y cyd â Gwasg Y Lolfa a Barddas.
Y Chwiban Olaf | Dydd Mawrth, 4 Awst am 10.30am
Bydd y darlledwr a’r sylwebydd chwaraeon Huw Llywelyn Davies yn holi’r cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, am hanesion o’r cae rygbi a’i hunangofiant. Trefnir ar y cyd â Gwasg Y Lolfa.
Ar Daith | Dydd Mercher, 5 Awst am 12pm
Bydd Dr Miriam Elin Jones yn cadeirio sgwrs banel fydd yn trafod llenyddiaeth taith a’r Gymraeg, yng nghwmni Dr Grug Muse, Jon Gower a Dr Kathryn Jones.
Darlith Goffa Hywel Teifi – Barddoniaeth yn Oes yr Anwireddau: A oes angen beirdd yn nyddiau AI? | Dydd Iau, 6 Awst am 12pm
Traddodir y ddarlith gan yr Athro Emeritws Menna Elfyn – bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd arobryn.
Tua’r Gorllewin | Dydd Gwener, 7 Awst am 10.30am
Bydd Beti George yn cynnal sgwrs gyda Cleif Harpwood, Meinir Mathias ac Euros Lewis am y modd y mae celfyddyd yn ymateb i newid cymdeithas a cholli iaith yn y gorllewin.
Bydd ambell ddigwyddiad a dathliad arall sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol yn cael eu cynnal ar draws y Maes.
Yn eu plith bydd Dr Geraldine Lublin yn cymryd rhan mewn sgwrs banel i drafod Hanes, Hunaniaeth a’r Cwricwlwm i Gymru, a drefnir gan Adnodd yn y Cymdeithasau, brynhawn dydd Sadwrn am 4.30pm.
Am 12.30pm ddydd Mawrth, bydd yr Athro Gwenno Ffrancon yn traddodi darlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2, John Roberts Williams – Cofio Llais Cenedl.
Am 4pm ddydd Mercher, bydd cyn-fyfyrwraig sydd bellach yn diwtor yn Adran y Gymraeg, Emily Evans, yn derbyn Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Am 10.30am ddydd Iau, bydd yr Athro Siwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil, Arloesi a Menter) Prifysgol Abertawe, yn cael ei hanrhydeddu â Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Dr Glyn O Phillips, ac yn ddiweddarach yn y Pafiliwn am 2pm.
Bydd yr Athro Siwan Davies hefyd yn traddodi darlith a drefnir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru dan y teitl ‘Edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd’, yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 11.30am fore Iau.
Meddai Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a’i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 a chael estyn croeso gwresog i gynulleidfa selog y pafiliwn llenyddiaeth. Yn ôl ein harfer, mae cyfres o ddigwyddiadau difyr ac amserol wedi’u trefnu gan Academi Hywel Teifi fel rhan o arlwy’r Babell Lên.
“Yn eu plith, edrychwn ymlaen yn fawr at glywed Menna Elfyn yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi eleni a thrafod creadigrwydd yn oes deallusrwydd artiffisial ac anwireddau, ac at ddathlu’r Athro Siwan Davies wrth iddi gael ei gwobrwyo â Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod am ei chyfraniad aruthrol i ymchwil ac addysg wyddoniaeth yn Gymraeg. Bydd hi’n braf, unwaith eto, cael bod ynghanol y bwrlwm creadigol, celfyddydol a diwylliannol ar faes ein Prifwyl, a hithau’n nodi ei 850 mlwyddiant.”