Mae myfyriwr aeddfed a ddychwelodd i addysg ar ôl i drasiedi deuluol darfu ar ei astudiaethau wedi graddio o Brifysgol Abertawe â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg, gan ennill lle ym Mhrifysgol Rhydychen.
Pan oedd yn ei arddegau, roedd hi'n ymddangos bod Jonathan Phillips 28 o Dregŵyr ar y trywydd iawn i gael lle yn un o'r prifysgolion gorau. Fodd bynnag, yn ystod ei ail flwyddyn yn y coleg, aeth ei dad yn ddifrifol sâl.
Bu farw ei dad yn ystod wythnos arholiadau Safon Uwch Jonathan gan achosi iddo golli sawl arholiad ar adeg hollbwysig yn ei addysg.
Yn benderfynol o wella ei raddau, gwnaeth Jonathan ail-wneud y flwyddyn gan hefyd weithio a chefnogi ei chwaer iau, Joanne, a oedd yn paratoi ar gyfer ei harholiadau TGAU ar y pryd.
Roedd hi’n her cydbwyso gwaith, cyfrifoldebau teuluol ac astudio a daeth hi'n fwyfwy anodd i Jonathan barhau ar y trywydd i'r Brifysgol roedd unwaith wedi'i ragweld iddo ef ei hun.
Gan fyfyrio ar y cyfnod hwnnw, meddai Jonathan: “Roedd y ffaith bod rhywun yn dibynnu arna i yn sbardun cryf i gadw symud ymlaen. Roedd gwybod bod fy chwaer iau yn dibynnu arna i yn rhoi ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb a phwrpas i mi yn ystod cyfnod anodd."
Chwe blynedd wedi hynny, cofrestrodd Jonathan ar raglen BSc Mathemateg a Chyfrifiadureg Prifysgol Abertawe fel myfyriwr aeddfed.
"Wedi bod yn annibynnol mor hir a dychwelyd i addysg ar ôl sawl blwyddyn allan o'r system, roedd gen i bwrpas clir a lefel uchel o gymhelliant wrth ddod i Brifysgol Abertawe," meddai.
"Roeddwn i eisiau adennill y tir roeddwn i wedi'i golli flynyddoedd yn ôl."
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Abertawe dechreuodd Jonathan sylweddoli ei fod yn dal i allu cyflawni'r canlyniadau roedd unwaith wedi gweithio tuag atynt.
"Roedd hi'n wych cael canlyniadau arholiadau a oedd wir yn adlewyrchu'r ymdrech roeddwn i wedi'i gwneud ac yn tawelu fy meddwl fy mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn wrth ddychwelyd i astudio."
Gyda chefnogaeth staff yn y Brifysgol, gan gynnwys ei ddarlithydd a'i gyn-diwtor academaidd, yr Athro Dmitri Finkelshtein, roedd Jonathan yn ffynnu yn ystod ei astudiaethau a graddiodd.
Meddai'r Athro Finkelshtein o Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg Prifysgol Abertawe: "Mae Jonathan yn un o'r myfyrwyr mwyaf talentog dwi wedi'u haddysgu - mae ganddo chwilfrydedd deallusol a diddordebau gwirioneddol eang, mewn mathemateg a'r tu hwnt.
"Yr hyn a greodd argraff arna i oedd aeddfedrwydd a dyfnder ei gwestiynau a'i feddwl, roedd e bob amser yn mynd ati i ddatrys problemau o safbwyntiau annisgwyl. Gradd dosbarth cyntaf yw'r union beth roeddwn i'n disgwyl iddo ei ennill a bydd Rhydychen yn cael myfyriwr eithriadol."
O ganlyniad i'w gyflawniadau yn Abertawe, roedd gan Jonathan yr hyder i gyflwyno cais i Brifysgol Rhydychen, lle bydd yn dechrau gradd MSc mewn Cyllid Mathemategol a Chyfrifiadol yn yr hydref eleni.
"Pan gyrhaeddais i Brifysgol Abertawe, doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai fy mreuddwyd gwreiddiol o astudio yn Rhydychen yn gyraeddadwy o hyd," meddai.
“Mae'n hynod gyffrous gweld fy mreuddwyd yn cael ei wireddu, hyd yn oed os oedd rhaid i mi aros amdano."
Dywedodd Jonathan ei fod yn meddwl yn aml beth fyddai'r achlysur hwn wedi'i olygu i'w dad.
"Pan oeddwn i yn y coleg, roeddwn i ar y trywydd am le yn Rhydychen neu Gaergrawnt ond oherwydd fy nghanlyniadau Safon Uwch a'm cyfrifoldebau teuluol, roedd hynny'n amhosib ar y pryd.
"Mae cwblhau fy ngradd a pharatoi i ddechrau ar gam nesaf fy astudiaethau'n rhywbeth dwi mor falch ohono.
"Hoffwn i feddwl y byddai fy nhad yn falch ohono i hefyd, nid yn unig am fy llwyddiant academaidd, ond am beidio â rhoi'r gorau i fy mreuddwyd. Mae'n drist na chafodd e'r cyfle i fy ngweld i'n graddio."
Wrth iddo baratoi ar gyfer y dyfodol, mae Jonathan yn gobeithio y bydd ei brofiad yn annog eraill sydd wedi wynebu amgylchiadau anodd a darfodd ar eu bywydau.
"Hyd yn oed pan fydd bywyd yn cyflwyno heriau sylweddol, mae'r anawsterau hynny'n rhai dros dro yn aml. Gall amgylchiadau newid, ac mae dyfodol gwell bob amser yn bosib.
"Drwy ddyfalbarhau a pharhau i wneud yr hyn sydd angen ei wneud, mae'n bosib cyflawni pethau a oedd unwaith yn ymddangos yn freuddwydion pell."
Dysgwch ragor am astudio yn Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg Prifysgol Abertawe.