Mae cyn-geisiwr lloches a ddaeth i Gymru heb wybod bod gan y wlad ei hiaith ei hun yn dathlu graddio o Brifysgol Abertawe â gradd MA yn y Gymraeg.
Yn wreiddiol o Draeth Ifori, bu'n rhaid i Joseff Gnagbo, sy'n 52 oed, ffoi o'i famwlad yn 2011 oherwydd aflonyddwch gwleidyddol a gwrthdaro.
Ar ôl treulio chwe blynedd ym Morocco a chyfnod byr yn Lloegr, ymgartrefodd Joseff yng Nghymru yn 2018.
Bellach, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae wedi graddio o Brifysgol Abertawe â gradd MA drwy Ymchwil yn y Gymraeg.
Meddai Joseff: "Mae graddio gydag MA yn y Gymraeg yn rhywbeth na fyddwn i byth wedi ei ddychmygu pan ddes i i Gymru am y tro cyntaf. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod iaith Gymraeg. Roeddwn i wedi gweld y faner o'r blaen ac yn gwybod am y tîm rygbi cenedlaethol, ond dyna'i gyd roeddwn i'n ei wybod. Mae wedi bod yn daith anhygoel.”
Ar ôl cael ei groesawu gan Oasis yng Nghaerdydd, elusen sy'n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, dechreuodd Joseff gael gwersi, cam a fyddai'n llywio gweddill ei fywyd yng Nghymru.
Meddai: "Y gair cyntaf rwy'n ei gofio yw Cymru. O'r fan honno, roeddwn i eisiau dysgu'r iaith.”
Gwnaeth y penderfyniad hwnnw hefyd lywio profiad Joseff o golli iaith yn Nhraeth Ifori.
Cyn dod i Gymru, bu Joseff yn newyddiadurwr, yn athro iaith ac yn gerddor gan siarad sawl iaith. Er hynny, ni wnaeth byth ddysgu Guébié, iaith ei deulu a'i gymuned yn Nhraeth Ifori.
Meddai Joseff: "Des i'n gyfforddus i beidio â'i siarad ac yn y pen draw ei gwrthod hi. Cymerodd sawl blwyddyn i mi sylweddoli pa mor bwysig yw iaith i'ch hunaniaeth.
"Gyda braidd dim cofnodion ysgrifenedig o Guébié a cholli siaradwyr hŷn, gan gynnwys fy nhad, des i'n fwyfwy ymwybodol o ba mor hawdd y gall ieithoedd ddiflannu.”
Roedd dysgu iaith Geltaidd yn cyflwyno heriau ieithyddol, ond y rhwystrau pennaf yn ôl Joseff oedd agweddau pobl yn aml.
Meddai: "Byddai pobl yn gofyn i mi'n aml pam roeddwn i’n dysgu'r Gymraeg oherwydd bod pawb yn siarad Saesneg, a gwnaeth hynny fy ysgogi'n fwy.”
O fewn blwyddyn, roedd Joseff yn gallu cynnal sgyrsiau yn Gymraeg gan ymdrochi mewn cymunedau sy'n siarad Cymraeg ledled Cymru.
Meddai: "Mae'r gymuned Gymraeg yn hollol anhygoel. Mae ganddi egni cadarnhaol iawn gan fy annog i ddysgu.”
Ar ôl cael statws ffoadur, dechreuodd Joseff gyflwyno ceiswyr lloches a ffoaduriaid eraill i'r Gymraeg, gan gynnal sesiynau byr mewn canolfannau fel Oasis yng Nghaerdydd.
Meddai Joseff: "Roeddwn i eisiau mynd i leoedd lle roedd pobl eisoes yn dysgu Saesneg a rhoi blas ar y Gymraeg iddynt.”
Dros y blynyddoedd dilynol, daeth Joseff yn rhan gynyddol o ymgyrchoedd Cymraeg a mentrau cymunedol.
Yn 2023, cafodd ei ethol yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sef y person cyntaf a anwyd y tu allan i Gymru i arwain y mudiad. Cafodd ei ailethol am ail dymor yn 2024.
Cafodd ei gyfraniad at ddiwylliant Cymru ei gydnabod ymhellach yn 2024 pan gafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Meddai: "Wrth weithio fel actifydd yn Affrica, rydych chi'n peryglu eich bywyd ac rydych yn gwneud hynny heb gael nac angen cydnabyddiaeth. Roedd mynd o hynny i gael fy nghydnabod yn genedlaethol yn yr Eisteddfod yn anhygoel. Roeddwn yn cadw meddwl, ‘ydy hyn wir yn digwydd, neu a ydw i'n breuddwydio?’"
Ar gyfer ei radd MA drwy Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, archwiliodd Joseff y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu ffoaduriaid a mudwyr sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru, gan ddod â'i ddiddordebau academaidd, ei waith eiriolaeth a'i brofiadau bywyd ynghyd.
Gan edrych tua'r dyfodol, mae Joseff yn gobeithio astudio am PhD a hefyd mae'n bwriadu parhau â'i waith eiriolaeth ac allgymorth dros y Gymraeg.
Meddai: "Mae'r agwedd gymdeithasol yn bwysig iawn. Rhaid i chi ddiogelu'r gymuned oherwydd bod angen i chi gael y gymuned i siarad yr iaith.
"I mi, roedd dysgu Cymraeg yn llawer mwy na dysgu iaith. Gwnaeth fy helpu i fod yn rhan o gymuned.”
Meddai Dr Gwennan Higham, Uwch-ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae stori Joseff yn dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb sy'n dewis ei chofleidio. Mae graddio gydag MA yn y Gymraeg dim ond wyth mlynedd ar ôl cyrraedd Cymru'n gyflawniad anhygoel, ond mae ei gyfraniad at yr iaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w daith academaidd.
"Drwy ei eiriolaeth, ei gyfranogiad cymunedol a'i ymrwymiad at gynhwysiant, mae wedi helpu i feithrin cysylltiadau rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol a chyfoethogi'r gymuned sy'n siarad Cymraeg.”
Dysgwch fwy am Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.