Y Senedd

Y Senedd, Bae Caerdydd. Llun: Matthew Horwood Photography

Mae mwy o bobl yng Nghymru o blaid cadw’r system bleidleisio bresennol ar gyfer y Senedd yn hytrach na dychwelyd at yr hen un, yn ôl astudiaeth fanwl newydd o etholiad datganoledig mis Mai.

Yn seiliedig ar arolwg o ddeng mil o bobl yng Nghymru, mae'r canfyddiadau'n dangos bod 35.2% o'r ymatebwyr yn ffafrio cadw'r drefn o bleidleisio dros blaid a ddefnyddiwyd eleni, o gymharu â 30.6% sy'n ffafrio dychwelyd at bleidleisio dros ymgeiswyr unigol.

Dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe, mae'r canfyddiadau hyn o Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 hefyd yn dangos bod gwybodaeth am y system bleidleisio newydd ar gyfer y Senedd wedi cynyddu yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Er nad oedd y mwyafrif o bobl, 58%, yn gwybod sut roedd y system gynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig yn gweithio, mae'r astudiaeth yn dangos bod 69% wedi ei chael hi'n hawdd bwrw eu pleidlais. Roedd 58% hefyd yn teimlo bod y system newydd yn deg i bleidiau gwleidyddol o ran trosi pleidleisiau yn seddi.

Dywedodd chwarter yr ymatebwyr eu bod wedi pleidleisio dros blaid wleidyddol er mwyn atal plaid arall rhag ennill yn eu hetholaeth, sy’n awgrymu bod pleidleisio tactegol wedi chwarae rhan yn yr etholiad.

Roedd y rhan fwyaf o'r pleidleisio tactegol hwn o fudd i Blaid Cymru, a enillodd y nifer fwyaf o seddi a phleidleisiau yn etholiad y Senedd.

Nododd y rhai a holwyd deimladau cadarnhaol iawn tuag at Blaid Cymru a Phlaid Werdd Cymru, tra bod y farn am Reform UK yn fwy negyddol, gyda theimladau megis ofn, dicter ac anniddigrwydd. Edrychodd yr ymchwil hefyd ar sut roedd pobl yn teimlo am ble maent yn byw: gyda 41% yn teimlo bod ymgyrch etholiad y Senedd wedi rhannu pobl yn eu hardal leol yn hytrach na'u dwyn ynghyd.

Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, sy'n cyd-arwain yr astudiaeth: “Efallai y bydd y gefnogaeth i’r system bleidleisio newydd yn syndod i lawer. Heb os, bydd yn dylanwadu ar y ddadl barhaus ynghylch diwygiadau etholiadol posibl yn y dyfodol. Er bod llawer o bobl wedi gweld bod y system bleidleisio newydd yn hawdd i’w defnyddio, roedd dealltwriaeth o sut roedd yn gweithio yn parhau i fod yn gyfyngedig.

“Ar y cyfan, datgelodd etholiad Senedd 2026 gymysgedd o ymgysylltiad, ansicrwydd a rhwystredigaeth ymhlith pleidleiswyr yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at bryderon ehangach ynghylch y berthynas rhwng gwleidyddiaeth a chymunedau. Mae llawer o ymatebwyr yn teimlo ymdeimlad cryf o falchder yn y cymunedau lle maen nhw’n byw. Ond mae rhwystredigaeth amlwg hefyd ynghylch y dirywiad economaidd yn y mannau hyn, ac amheuaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth dros y blynyddoedd nesaf.”

Canfu’r astudiaeth academaidd fanwl hefyd fod llawer o bobl yn teimlo bod y sefyllfa economaidd yn eu hardal leol wedi dirywio, ac nad oedd awdurdodau lleol, yn enwedig Llywodraeth Cymru, yn poeni digon am y mannau lle maent yn byw.

Y gwasanaeth iechyd, costau byw, tai a swyddi oedd y materion pwysicaf i bleidleiswyr yn yr etholiad hwn. Fodd bynnag, roedd tua thraean o bobl yn ansicr pa bleidiau gwleidyddol yr oeddent yn ymddiried fwyaf ynddynt neu'n eu hystyried yn gymwys i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Ychwanegodd Dr Bettina Petersohn o Brifysgol Abertawe: “Mae canfyddiadau ac asesiadau pobl o’u hardal leol a’u hawdurdod lleol yn wahanol iawn i’w barn am Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Er bod mwyafrif y rhai a bleidleisiodd yn meddwl bod eu hawdurdod lleol yn gofalu am y mannau lle maen nhw’n byw, roedd yr ymdeimlad hwnnw o ofal yn llai amlwg mewn perthynas â Llywodraeth Cymru, ac roedd llai na 10% o’r farn bod ots gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Er bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros newid yn yr etholiad hwn, nid yw llawer yn disgwyl y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w hardal leol.”

Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno mewn digwyddiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd a Llandudno yr wythnos hon fel rhan o’r gyfres Deall Etholiad Senedd Cymru 2026: Democratiaeth, Cymunedau a’r Cyfryngau yng Nghymru.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd ddydd Llun 13 Gorffennaf rhwng 6pm a 7.30pm, ac yna cynhelir ail ddigwyddiad yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Mawrth 14 Gorffennaf rhwng 2.30pm a 4pm.

Mae Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn brosiect ymchwil pedair blynedd a ariennir gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) UKRI.

Mae'r cydweithrediad yn dwyn ynghyd yr Athro Matt Wall (Prifysgol Abertawe), Dr Anwen Elias (Prifysgol Aberystwyth), Dr Bettina Petersohn a Dr Mohsin Hussain (Prifysgol Abertawe), gan weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), fel rhan o fuddsoddiad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) mewn seilwaith data ar gyfer ymchwil etholiadol.

Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar sampl tebygolrwydd cynrychioliadol o 10,001 o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru a holwyd rhwng 26 Chwefror a 3 Mehefin 2026 gan Ipsos UK.

Rhannu'r stori