Llun grŵp o dîm Prifysgol Abertawe a Chartwells: (Chwith i'r dde) Neil Griffiths, Kim Dowle, Mark Davies, Melody Lin, Carl Newcombe-Ling, Teifion Maddocks, Lisa Scattergood, Sagar Pattapu.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir gynaliadwyedd o fri, gyda'r partner arlwyo Chartwells yn cyflawni Safon Food Made Good Tair Seren — yr achrediad uchaf sy’n cael ei ddyfarnu gan y Sustainable Restaurant Association (SRA).
Mae'r safon o fri hon yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed ar draws gweithrediadau arlwyo'r Brifysgol wrth ddarparu gwasanaethau bwyd cynaliadwy, cyfrifol o safon i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
Mae fframwaith yr SRA, sy'n cael ei archwilio'n annibynnol, yn asesu sefydliadau drwy adolygiad cynhwysfawr, sy'n canolbwyntio ar dri philer craidd: Tarddiad, Cymdeithas a'r Amgylchedd.
Mae dyfarniad tair seren Chartwells yn adlewyrchu perfformiad cryf a gwelliant parhaus ar draws y meysydd allweddol hyn ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys:
- Tarddiad - Arferion caffael cyfrifol, mwy o gefnogaeth i gynhyrchwyr lleol, pysgod wedi'u prynu'n gynaliadwy ac ystod ehangach o opsiynau bwyd ar sail planhigion.
- Cymdeithas - ffocws cryf ar les staff, cyfraniadau cadarnhaol at gymuned y Brifysgol a chynnig bwyd iach sydd wedi'i gynhyrchu'n foesegol
- Yr Amgylchedd - Lleihau gwastraff bwyd, gwella effeithlonrwydd ynni a dŵr a gweithredu ystyrlon i leihau ôl troed carbon cyffredinol
Mae'r dyfarniad hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i arwain trwy esiampl mewn arlwyo cynaliadwy, gan gefnogi ymdrechion ehangach i leihau effaith amgylcheddol a gwella gwerth cymdeithasol ar draws y campws.
Meddai Rachel Carter, Rheolwr-gyfarwyddwr Chartwells: “Mae cyflawni'r safon hon yn atgyfnerthu ein sefyllfa fel partner arlwyo cyfrifol a blaengar, sy'n cyd-fynd â gwerthoedd myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid sy'n ystyriol o'r amgylchedd.
"Mae'r garreg filltir hon yn brawf o ymroddiad a gwaith caled ein timau ar draws Prifysgol Abertawe, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn wrth i ni barhau â'n taith tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy."
Ychwanegodd Teifion Maddocks, Arweinydd Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe: “Bob blwyddyn, mae myfyrwyr a staff yn dweud wrthym drwy ein harolwg arlwyo blynyddol eu bod am gael mwy o opsiynau bwyd cynaliadwy ar y campws.
"Mae'r wobr hon yn dangos bod Prifysgol Abertawe'n cymryd cynaliadwyedd ei gwasanaethau arlwyo o ddifri ac wrthi'n cefnogi ein huchelgais i fod yn brifysgol sero net, yn gadarnhaol o ran natur ac yn ddiwastraff."