Cydnabyddiaeth: Nina Buday | Shutterstock.
Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe yn dadlau y gall buddion gofal iechyd ar sail natur ddibynnu ar fwy na mynediad at fannau gwyrdd - mae bioamrywiaeth ac ansawdd ecolegol yr amgylcheddau yr un mor bwysig.
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Environmental Research Letters, yn herio'r rhagdybiaeth gyffredin y gellir trin yr holl fannau gwyrdd yn gyfartal mewn ymchwil i iechyd ar sail natur. Maent yn cyflwyno'r fframwaith cyntaf sy'n cysylltu bioamrywiaeth, cyflwr ecolegol a chynaliadwyedd amgylcheddol â'r canlyniadau lles sy'n gysylltiedig â rhagnodi gwyrdd - ymagwedd a ddefnyddir fwyfwy ar draws y GIG.
Cyhoeddir yr ymchwil ar adeg pan fo rhaglenni iechyd ar sail natur yn ehangu ym mhob rhan o'r GIG, wrth i bryderon gynyddu am effaith colli bioamrywiaeth ar les dynol.
Er bod rhaglenni megis rhagnodi ar sail natur yn annog pobl i dreulio amser mewn parciau, coetiroedd a lleoedd gwyrdd eraill, mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil bresennol yn trin "natur" fel adnodd unffurf, gan anwybyddu'r gwahaniaethau ecolegol a all ddylanwadu ar ba mor effeithiol y mae amgylcheddau'n cefnogi lles.
Er enghraifft, gall coetir neu wlypdir uchel ei fioamrywiaeth, gefnogi lles yn wahanol i gae chwarae lle mae’r gwair yn cael ei dorri’n rheolaidd neu barc a reolir yn ddwys.
I fynd i'r afael â'r bwlch hwn, datblygodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bayreuth Fframwaith Cynaliadwyedd Un Iechyd sy'n cyfuno agweddau iechyd cyhoeddus, ecoleg a gwyddor gynaliadwyedd. Mae'r fframwaith yn amlygu sut gall bioamrywiaeth, cyflwr cynefinoedd ac iechyd ecosystem lywio effeithiolrwydd - a gwydnwch hirdymor - rhaglenni iechyd ar sail natur.
Meddai'r prif awdur, Dr Konstans Wells, o Ganolfan Atebion ar Sail Natur Prifysgol Abertawe: "Mae rhagnodi gwyrdd yn faes gofal iechyd addawol sy'n ehangu'n gyflym, ond mae'n rhyfeddol cyn lleied rydyn ni'n ei wybod o hyd am sut mae nodweddion ecolegol amgylcheddau gwahanol yn dylanwadu ar les. Mae llawer o'r dystiolaeth bresennol yn canolbwyntio ar gysylltiad â natur yn gyffredinol, gan dalu llai o sylw i fioamrywiaeth, cyflwr ecosystemau ac ansawdd ecolegol. Mae ein fframwaith yn tynnu sylw at yr angen i symud y tu hwnt i ofyn yn syml a yw natur yn fuddiol, a symud tuag at ddeall pa fathau o natur a faint sydd ei hangen i gefnogi iechyd mewn ffordd gynaliadwy."
Mae'r astudiaeth yn pwysleisio'r amrywiaeth fawr rhwng nodweddion ecolegol amgylcheddau naturiol. Mae ecosystemau â bioamrywiaeth a strwythurau cymhleth - megis coetiroedd, gwlyptiroedd neu laswelltiroedd â chyfoeth o rywogaethau - yn wahanol yn eu hanfod i fannau gwyrdd wedi'u symleiddio neu a reolir yn ddwys. Gall y gwahaniaethau hyn ddylanwadu ar hyd a lled a pharhad buddion iechyd, yn ogystal ag ar wydnwch yr ecosystemau eu hunain.
Wrth i raglenni iechyd ar sail natur gynyddu, mae'r awduron yn nodi y gallai galw cynyddol am fannau gwyrdd roi pwysau ychwanegol ar ecosystemau, oni bai bod capasiti ecolegol ac anghenion cadwraeth yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag iechyd dynol.
Mae ymchwil y cyd-awdur, Dr Menna Brown, yn canolbwyntio ar ragnodi cymdeithasol ar sail natur a'i weithredu yn y GIG ac mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol, Meddai: "Mae rhagnodi cymdeithasol ar sail natur yn agwedd fwyfwy pwysig ar ofal iechyd ataliol, ac mae'r dystiolaeth yn cynyddu y gall cysylltu pobl â natur gefnogi iechyd a lles. Wrth i'r rhaglenni hyn dyfu, yr her nesaf yw deall sut mae gwahanol fathau o amgylcheddau naturiol yn cyfrannu at y canlyniadau hyn a sut gallwn uchafu'r buddion i bobl a natur.
"Drwy ymagwedd Un Iechyd, gallwn ni wneud mwy na gofyn yn syml a yw ymyriadau ar sail natur yn effeithiol, a symud tuag at ddeall pa fathau o amgylcheddau sydd fwyaf effeithiol, i bwy, ac ym mha amgylchiadau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i ni ddatblygu rhagnodi gwyrdd mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol."
Mae'r fframwaith yn adeiladu ar arbenigedd cynyddol Prifysgol Abertawe mewn ymchwil i iechyd ar sail natur. Yn ddiweddar, bu Dr Brown, ar y cyd â'r meddyg teulu a'r ymchwilydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Catherine Jenkins, yn arwain datblygiad pecyn cymorth gwerthuso ar gyfer Rhagnodi Cymdeithasol ar Sail Natur. Mae'r awduron yn awgrymu y gallai dulliau gwerthuso yn y dyfodol elwa o gynnwys dangosyddion ecolegol - megis bioamrywiaeth a chyflwr cynefinoedd – ynghyd â mesuryddion iechyd traddodiadol.
Drwy archwilio ansawdd ecolegol a phwysau amgylcheddol ochr yn ochr â chanlyniadau lles, gallai astudiaethau yn y dyfodol helpu i fynd i'r afael â bwlch allweddol yn y dystiolaeth: a yw mathau gwahanol o amgylcheddau naturiol yn dylanwadu ar barhad buddion iechyd dros amser, yn ogystal â'u graddfa.
Yn ôl yr awduron, mae'r fframwaith yn cynnig sylfaen ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i sut gellir datblygu gweithgarwch hybu iechyd a stiwardiaeth amgylcheddol gyda'i gilydd.
Darllenwch ragor am yr Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg.