Llun o'r pen a'r hombrau o ddyn ochr yn ochr â chlawr blaen llyfr ar gefndir glas.

Nod llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yw amlygu pobl anabl a'u rôl mewn cymdeithas sydd wedi'i hen ddiystyru.    

Ysgrifennwyd Disability: A History of Resistance gan yr Athro David Turner ac mae'n cyflwyno hanes Prydain fodern mewn ffordd newydd, gan roi pobl anabl wrth wraidd y stori am y tro cyntaf erioed.

Yn ogystal â chael ei glodfori gan y beirniaid, enwyd y llyfr yn llyfr ffeithiol y mis gan The Independent.

Mae'n archwilio profiadau pobl anabl ym Mhrydain o'r 16eg ganrif tan heddiw. Ar adeg ddigynsail pan fo hawliau anabledd yn wynebu mwy o fygythiad nag erioed, mae'r Athro Turner yn credu y gallai gweithredoedd pobl anabl a'u cynghreiriaid o'r gorffennol gynnig llwybr at gymdeithas fwy cynhwysol heddiw.

Dywedodd: “Er bod pobl anabl bob amser wedi wynebu sawl math o ormes, maen nhw bob amser wedi canfod ffyrdd o'u goroesi.  Mae'r llyfr yn gosod yr heriau presennol y mae pobl anabl yn eu hwynebu mewn cyd-destun ac yn dangos bod gan y mudiad hawliau anabledd modern hanes llawer hirach nag rydym yn dueddol o feddwl.”

Esboniodd fod y llyfr yn dilyn ymagwedd gynhwysol at y gorffennol er mwyn adlewyrchu ethos rhaglenni gradd hanes yn Abertawe lle caiff myfyrwyr eu haddysgu bod hanes pawb yn bwysig. 

Ychwanegodd: “Cafodd fy llyfr ei ysbrydoli gan y llu o sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda myfyrwyr sy'n astudio fy modiwlau. Er gwaethaf gwelliannau ym maes hawliau anabledd, mae pobl anabl ym Mhrydain yn wynebu gwahaniaethu ac agweddau negyddol o hyd, felly mae'n teimlo'n arbennig o bwysig i mi rannu fy ymchwil i hanesion pobl anabl â chynulleidfa ehangach.

“Rwy'n gobeithio y bydd fy llyfr yn denu cynulleidfaoedd newydd i agwedd bwysig ar orffennol Prydain sydd wedi'i hesgeuluso.”

Cyhoeddwyd Disability gan Bodley Head ac mae ar gael nawr.

 

Rhannu'r stori