Llun: Shutterstock
Mae rhaglen hyfforddiant ar-lein am ddim newydd sy'n helpu gweithwyr iechyd a gofal i gefnogi cleifion byddar a rhai trwm eu clyw wedi cael ei lansio.
Wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe ar y cyd â grwpiau o gymunedau byddar ar draws Cymru a myfyrwyr gofal iechyd Abertawe, nod Pecyn e-ddysgu Ymwybyddiaeth o Fyddardod Cymru Gyfan yw gwella dealltwriaeth o fyddardod, chwalu rhwystrau cyfathrebu a helpu i greu gwasanaethau gofal iechyd mwy hygyrch.
Mae mwy na hanner miliwn o bobl yng Nghymru'n fyddar neu'n drwm eu clyw, gan gynrychioli tua 19% o'r boblogaeth, yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Fyddar. Serch hynny, mae llawer yn parhau i wynebu heriau'n ceisio cyrchu gofal iechyd a chymdeithasol oherwydd bod diffyg hyfforddiant a hyder o ran ymwybyddiaeth o fyddardod gan staff wrth gyfathrebu'n effeithiol â chleifion byddar.
Meddai arweinydd y prosiect Dr Julia Terry o Brifysgol Abertawe: "Gall pobl fyddar a thrwm eu clyw wynebu ystod eang o rwystrau wrth gyrchu gofal iechyd, sy'n gallu cyfrannu at oedi diagnosis, lleihau mynediad i wasanaethau a chanlyniadau iechyd gwaeth.
"Dengys ymchwil fod llawer o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn cael braidd dim hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o fyddardod yn ystod eu haddysg neu ddim o gwbl. O ganlyniad, nid ydynt bob amser yn sylweddoli'r heriau cyfathrebu y mae cleifion byddar a thrwm eu clyw'n eu hwynebu neu'n gwybod beth yw'r ffordd orau o'u cefnogi nhw.
"Gwnaethom weithio'n agos gyda'r cymunedau byddar ar draws Cymru i sicrhau bod y rhaglen hyfforddi'n adlewyrchu profiadau bywyd go iawn ac yn amlygu'r rhwystrau y mae pobl yn gallu eu hwynebu wrth gyrchu gofal iechyd. Gall y rhain gynnwys gofyn i ffonio wrth ymateb i lythyron apwyntiad neu'n cael trafferth wrth ddilyn sgyrsiau pan fydd staff yn edrych ar sgriniau cyfrifiadur yn hytrach na wynebu cleifion yn uniongyrchol. Drwy rannu'r profiadau byw hyn, gobeithio y gallwn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddeall yn well yr heriau ymarferol sy'n gallu gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch a chynhwysol".
"Mae adborth gan fyfyrwyr gofal iechyd Prifysgol Abertawe sydd wedi peilota'r hyfforddiant wedi ein helpu i greu adnodd sy'n ddiddorol, yn berthnasol ac yn ymarferol. Ein nod yw rhoi'r hyder a'r sgiliau i weithwyr gofal iechyd cyfredol a'r dyfodol i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion byddar a thrwm eu clyw, gan helpu i wella profiadau a chanlyniadau cleifion ar draws Cymru".
Mae'r pecyn hyfforddiant yn cynnwys dau gwrs hunangyfeiriedig, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae cyfranogwyr yn cwblhau cwis byr ac yn cael tystysgrif wrth gwblhau'n llwyddiannus.
- Hanfodion Ymwybyddiaeth o'r Byddar cwrs cyflwyniad 30 munud sy'n cynnwys fideos, cynnwys rhyngweithiol ac arweiniad ymarferol ar bynciau sy'n cynnwys byddardod, rhwystrau cyfathrebu cyffredin a ffyrdd i wella cyfathrebu â chleifion byddar.
- Ymwybyddiaeth o Fyddardod a Mwy mae hwn yn gwrs mwy cynhwysfawr sy'n cymryd rhwng dwy a thair awr i'w gwblhau ac mae'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach o ymwybyddiaeth o fyddardod ac arfer gofal iechyd cynhwysol.
Ychwanegodd Dr Terry: "Ni ddylai neb brofi iechyd neu ofal cymdeithasol gwaeth oherwydd eu bod yn fyddar neu'n drwm eu clyw. Drwy wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, gallwn sicrhau nad yw cyfathrebu byth yn rhwystr i gael gofal o ansawdd.
"Er bod yr hyfforddiant wedi'i ddatblygu'n benodol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a myfyrwyr yng Nghymru, mae'r cyrsiau am ddim ac yn agored i bawb, ac yn fuan byddan nhw ar gael ar blatfform hyfforddiant GIG Cymru. Mae gwella ymwybyddiaeth o fyddardod er budd cymdeithas gyfan, ac rydym yn gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn annog mwy o bobl i ddatblygu'r wybodaeth a'r hyder y mae eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol ag unigolion byddar a thrwm eu clyw".