Dyn yn siarad â grŵp o blant a oedolyn mewn ystafell brysur.

Llun: Adrian White Photography

Mae plant ysgol gynradd wedi cael mewnwelediad o lygad y ffynnon i fyd cyfriniol yr Aifft hynafol, diolch i gydweithrediad rhwng Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe a'r Amgueddfa Brydeinig.

Mae masgiau, gludweithiau, modelau llachar - a hyd yn oed carreg arch maint llawn - sydd wedi'u creu gan blant ifanc bellach yn cael eu harddangos ochr yn ochr â charreg sydd wedi'i harysgrifio â hieroglyff yr Aifft hynafol sy'n dyddio'n ôl  fwy na 2,000 o flynyddoedd. 

Mae'r garreg, sy'n cael ei hadnabod fel cippus, bellach ar fenthyg fel prif ran o arddangosfa newydd Ancient Egypt: magic and medicine sydd wrth wraidd y prosiect rhwng yr Amgueddfa Brydeinig a'r Ganolfan Eifftaidd.

Roedd y cippus yn arteffact hudolus, a’r gred oedd ei fod yn amddiffyn pobl rhag peryglon gan anifeiliaid fel llewod a chrocodeilod. Cyflawnwyd yr amddiffyniad trwy adrodd swynion wedi'u harysgrifio ar gefn y cippus. Ar y blaen gwelir y Duw Horus yn gorchfygu'r bygythiadau hyn.Uwch ei ben gwelir wyneb Bes, duw amddiffynnol sy'n gysylltiedig yn arbennig â diogelu’r cartref. Uchafbwynt y prosiect oedd gweld y cippus yn ymweld â'r ddwy ysgol i roi golwg blaenllaw i'r plant ar y trysor. 

Meddai curadur y Ganolfan Eifftaidd  Dr Ken Griffin, y cafodd ei angerdd ei hun am Eifftoleg ei sbarduno gan ymweliad ag amgueddfa pan oedd yn ifanc: "Ers mis Ionawr, mae wedi bod yn bleser cyflwyno sesiynau yn yr ysgolion yn archwilio'r dirgelion hynafol hyn. Mae brwdfrydedd y plant am y prosiect wedi arwain at weithiau celf gwych. 

"Rydym yn hynod o lwcus i gael gweithio gyda'r Amgueddfa Brydeinig ar y prosiect hwn ac i groesawu'r cippus hynafol anhygoel i Abertawe." 

Meddai John Stokes, Pennaeth Rhaglenni Cenedlaethol yr Amgueddfa Brydeinig: "Mae ein rhaglen yr Amgueddfa Brydeinig yn eich ystafell ddosbarth yn gyfle i ysgogi rhyfeddod y plant o weld gwrthrych hynafol, na fyddent fel arfer yn cael profiad ohono. Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi ysgogi angerdd hirdymor am y byd hynafol a chenhedlaeth newydd o fynychwyr amgueddfeydd." 

Meddai'r Athro Tim Sidbury o Ysgol Gynradd San Helen: "Mae'r plant wedi mwynhau creu'r eitemau hyn yn fawr iawn. Pan ddaeth y cippus i'r ysgol a gafodd ei harddangos ochr yn ochr â'u gwaith roeddech chi'n gallu gweld y balchder yn wynebau'r disgyblion a'u rhieni. Roedden nhw'n dwlu ar y prosiect a darganfod mwy am yr Aifft hynafol ac yn bendant mae wedi'u gwneud nhw’n fwy chwilfrydig. 

Daeth Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Torsten Bell, ysgolion a chynrychiolwyr o'r Brifysgol, gwirfoddolwyr a rhai o'r plant ifanc y mae eu gwaith bellach yn cael ei arddangos ochr yn ochr ag eitemau'r Ganolfan Eifftaidd, gan gynnwys telchyn 3,200 mlwydd oed, sef darn o galchfaen a ddefnyddir i ysgrifennu llythyr i ddigwyddiad arbennig i lansio'r arddangosfa. 

Bellach mae Ancient Egypt: magic and medicine ar agor i'r cyhoedd yn y Ganolfan Eifftaidd rhwng 10am a 6pm, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn tan 20 Medi. 

Rhannu'r stori