Sahar Sattar, enillydd y wobr gyntaf, yn derbyn siec gan yr Athro Siwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, a chyflwynydd y noson, Elin Rhys.
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi enillwyr rhaglen sy'n torri tir newydd i feithrin a chefnogi cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid benywaidd.
Mae'r Brifysgol ymhlith aelodau partner cyntaf rhwydwaith cenedlaethol WE Innovate, a lansiwyd gan Goleg Imperial Llundain fel rhan o ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes entrepreneuriaeth a datgloi potensial llawn sefydlwyr benywaidd.
Mae'r garfan gyntaf a ddewiswyd ar gyfer rhaglen genedlaethol WE Innovate Prifysgol Abertawe wedi treulio'r chwe mis diwethaf yn cael eu mentora gan arbenigwyr ac yn cael hyfforddiant busnes teilwredig i'w helpu i ddatblygu eu syniadau busnes.
Yn rownd derfynol y rhaglen, daeth myfyrwyr, staff, arweinwyr diwydiant a buddsoddwyr ynghyd i glywed y rhai hynny a gyrhaeddodd y rownd olaf yn cyflwyno eu syniadau am wobr a rennir sy'n werth £30,000, wedi'i rhoi gan gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe ac entrepreneur technoleg ariannol, Anne Boden MBE, sefydlydd Banc Starling.
Dyma'r enillwyr:
- Gwobr Gyntaf (£15,000) – Myfyriwr Doethurol Peirianneg Fiomecanyddol Sahar Sattar, sefydlydd DAWN, sy'n cynnig amrediad o hyfforddiant llawfeddygol i wella cyflwyno uwch-wasanaethau Iechyd Menywod a Babanod Newydd-anedig;
- Ail Wobr (£7,500) – graddedigion 2024 Srushti Mande ac Anusha Suresh, XR for the Green Economy, dyma blatfform dysgu ymdrochol sy'n cyflwyno hyfforddiant teilwredig sy'n cydymffurfio â'r diwydiant ar gyfer gweithwyr ym maes ynni adnewyddadwy;
- Trydedd Wobr (£5,000) – Myfyriwr Meistr Rheoli Meddygol Ruchi Dutta, Health Bridge, dyma blatfform sy'n darparu pecynnau i breswylwyr yn y DU sy'n teithio dramor am lawdriniaeth i helpu i leihau cymhlethdodau a'r straen ar y GIG;
- Pedwaredd Wobr (£2,500) – Myfyriwr Doethurol Peirianneg Deunyddiau a Chaenau Metelau Anna Voytyukova sy'n ymchwilio i ddulliau gwyrddach o waredu paent o fetelau a ddefnyddiwyd i helpu ailgylchu; ac,
- Enillydd Gwobr Cyflwyno i Gynulleidfa (£1,000) – Sabriya Hussain, myfyriwr doethurol Peirianneg Fiofeddygol a gyrhaeddodd Gam 2 y rhaglen, oherwydd ei syniad am wefrwr rheoliadur y galon anfewnwthiol.
Meddai Sahar, “Mae ennill yn golygu cymaint i mi. Dros y chwe mis diwethaf, mae'r rhaglen hon wedi trawsnewid fy hyder fel sefydlydd yn ogystal â'm busnes. Mae'r gefnogaeth, y mentora a'r cyfleoedd rwyf wedi'u cael wedi bod yn anhygoel, a bydd y cyllid hwn yn fy ngalluogi i fynd â DAWN i'r cam datblygu nesaf a bydd yn cael effaith go iawn.”
Meddai'r Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg, yr Athro Deborah Youngs, “Y rownd derfynol hon yw ffrwyth yr holl ddewrder, twf, her a thrawsnewid dros y chwe mis diwethaf. Rydyn ni wedi gweld arloesi ar waith. Bydd effaith y garfan hon yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rownd derfynol.”
Gwnaeth y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys arweinwyr ym maes arloesi, y byd academaidd ac entrepreneuriaeth, amlygu ansawdd ac amrywiaeth rhagorol y mentrau a gyflwynwyd.
Meddai Arweinydd Cenedlaethol WE Innovate a'r Rheolwr Arloesi yng Ngholeg Imperial Llundain, Nadia Ahrazem, “Mae'n hynod gyffrous gweld carfan gyntaf Prifysgol Abertawe yn cyflwyno mentrau mor gryf a hyderus. Gwnaeth y digwyddiad hwn arddangos yn union pam mae'r gwaith hwn yn bwysig - mae'r menywod hyn yn arlunio'r dyfodol.”
Ychwanegodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe dros Fenter, Cyfnewid Gwybodaeth a Phartneriaethau, yr Athro Peter Dunstan, “Mae rhaglenni megis hon yn rhan ganolog o'n cenhadaeth i ddatgloi doniau a chreu effaith ystyrlon. Y sefydlwyr hyn yw dyfodol mentergarwch, ac rydyn ni'n arbennig o falch o'u cefnogi wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf.”
Mae'r Brifysgol bellach wedi addo cefnogi'r garfan o gystadleuwyr wrth iddyn nhw barhau i ddatblygu eu mentrau.