Darlun o berson yn defnyddio gliniadur gyda swigod siarad negyddol yn dod o'r gliniadur

Llun: Shutterstock

Maen nhw'n dweud mai cyhoeddusrwydd da yw pob cyhoeddusrwydd, ond mae ymchwil newydd wedi datgelu'r heriau sylweddol y mae academyddion sy'n ymchwilio i bynciau LHDTC+ yn eu hwynebu pan fyddant yn cyflwyno eu gwaith i'r cyhoedd.

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd a gweithgareddau effaith yn ddisgwyliad allweddol gyrfa academaidd lwyddiannus ond mae'r ymchwil yn dangos bod costau personol a phroffesiynol ynglŷn â hyn, gan effeithio ar les ac iechyd meddwl yr ymchwilwyr, rhwystro eu datblygiad gyrfa ac, mewn rhai achosion, arwain at academyddion yn gadael y sector addysg uwch.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Sheffield Hallam, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bryste ac Ysgol Ganolog Frenhinol Lleferydd a Drama, ac fe'i cyflwynir mewn adroddiad o'r enw, Is All Publicity Good Publicity?, sy'n amlinellu'r canfyddiadau ac sy'n cynnwys argymhellion.

Meddai un o gyd-arweinwyr yr astudiaeth, Dr Charlotte Jones, Darlithydd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe, “Mae academyddion am hyrwyddo eu hymchwil y tu hwnt i'r Brifysgol, cydweithredu â sefydliadau ac unigolion allanol a gwireddu potensial eu hymchwil i wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, mewn amgylchedd cyhoeddus sy'n gynyddol gwiarffobig a thrawsffobig, mae hyn yn dod yn fwy anodd a pheryglus i ymchwilwyr sy'n gweithio ar bynciau LHDTC+ ac maen nhw'n aml yn wynebu adlach.”

Cynhaliodd y tîm ymchwil bedwar grŵp ffocws gydag 19 o ymchwilwyr LHDTC+ gweithredol ledled prifysgolion y DU er mwyn casglu gwybodaeth fanwl am eu profiadau byw. Gwnaeth y tîm hefyd adolygu polisïau'r Brifysgol a chynnal cyfweliadau â gwasanaethau proffesiynol a staff cefnogi ymchwil.

“Disgrifiodd y cyfranogwyr baradocs lle roedd prifysgolion yn pwysleisio buddion cyhoeddusrwydd, lledaenu ymchwil ac effaith,” dywedodd Dr Jones, “ond roedd y niwed a ddeilliodd o'r gwaith hwn heb gael ei gydnabod na'i gefnogi. Roedd rhai ymchwilwyr hefyd yn teimlo fel bod eu gwaith yn cael ei hyrwyddo i raddau llai gan y sefydliad, neu fel eu bod dan bwysau i feddalu eu hymchwil i sicrhau canfyddiad cadarnhaol gan y cyhoedd.

“Mae llawer ohonyn nhw wedi adrodd am deimlo'n bryderus, wedi’u gorlwytho â gwaith ac yn ansicr ynghylch eu dyfodol yn y byd academaidd. Yn benodol, dywedodd ymchwilwyr gyrfa gynnar eu bod yn teimlo'n ynysig yn aml a bod diffyg cefnogaeth gan eu sefydliadau, ac roedd ymchwilwyr rhyngwladol yn wynebu risgiau ychwanegol wrth drafod eu hunaniaeth LHDTC+ os oedd hwn yn bwnc tabŵ yn eu gwledydd cartref.”

Er gwaethaf yr heriau hyn, dywedodd llawer o ymchwilwyr fod cysylltu â chydweithwyr cefnogol a chymunedau LHDTC+ a arweinir gan gymheiriaid wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, gan eu helpu i ymdopi â phwysau a pharhau â'u gwaith.

Mae'r awduron yn dweud bod rhaid i brifysgolion gymryd camau gweithredu cliriach i gefnogi ymchwilwyr sy'n gweithio ar bynciau LHDTC+. Maen nhw'n argymell amddiffyniad cryfach yn erbyn aflonyddwch, cefnogaeth fwy gweladwy gan y sefydliad a chydnabyddiaeth uwch o'r risgiau y mae rhai ymchwilwyr yn eu hwynebu oherwydd eu gwaith.

Ychwanegodd y cyd-arweinydd, Dr Rosie Ola-Marie, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bryste, “Mae hon yn astudiaeth gymharol fach, sydd wedi dechrau archwilio cymhlethdod y materion hyn yn unig. Mae angen gwaith pellach i ehangu, cydgrynhoi a dyfnhau dealltwriaeth a myfyrio ar sut gellir gwella profiadau ymchwilwyr LHDTC+.

“Yn y pen draw, rhaid i ni ymdrechu i greu amgylchedd lle na fydd rhaid i ymchwilwyr LHDTC+ ddibynnu ar ewyllys da unigolion i deimlo'n ddiogel, wedi'u cefnogi a’u bod yn gallu rhannu eu gwaith. Drwy ymgorffori cymorth strwythurol ystyrlon mewn fframweithiau sefydliadol a chryfhau ymagweddau cydweithredol a arweinir gan y gymuned, gallwn ni symud y tu hwnt i fesurau ymatebol tuag at newid diwylliannol parhaus. Drwy wneud hyn, byddwn ni'n diogelu ymchwilwyr LHDTC+ ond, ar ben hynny, byddwn ni'n galluogi gweithgarwch ymchwil cyfoethocach, ymgysylltiad ehangach â'r cyhoedd a chymuned academaidd mwy cynhwysol a bywiog yn ddeallusol.

Hefyd, mae'r tîm ymchwil wedi lansio pecyn cymorth ar-lein i brifysgolion, sydd wedi'i lunio i gefnogi academyddion LHDTC+.

Ariannwyd yr astudiaeth Is all publicity good publicity? Addressing Public Harassment in LGBT+ Research Impact & Engagement, a gyhoeddwyd yn Sexualities, gan UKRI a'r Academi Brydeinig drwy Gawcws Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rhannu'r stori