Yr Athro Ann John OBE
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i phenodi'n OBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin i gydnabod ei gwasanaethau i atal hunanladdiad ac arloesedd digidol.
Mae'r Athro Ann John o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n arbenigwr rhyngwladol blaenllaw mewn atal hunanladdiad, cynnal ymchwil i hunan-niweidio a gwyddor data iechyd meddwl.
A hithau'n gyn-feddyg teulu, mae’r Athro John bellach yn Brif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr DATAMIND, sef Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd Meddwl, a Chyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil i Hunan-niweidio, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.
Mae ei hymchwil wedi gwella dealltwriaeth o'r achosion a'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niweidio, gan herio rhagdybiaethau hirsefydlog ac ehangu'r ffocws y tu hwnt i seiciatreg arbenigol i leoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae'r gwaith hwn wedi helpu i lunio polisi cenedlaethol, wedi cyfeirio ymarfer ar y rheng flaen ac wedi gwella'r modd y mae'r cyfryngau yn adrodd ar hunanladdiad.
Ar ben hynny, mae hi wedi cyfrannu at sawl cynhyrchiad teledu poblogaidd, gan gynnwys EastEnders, Coronation Street, a This Is Going to Hurt gan y BBC, gan helpu i sicrhau y caiff ymddygiadau hunanladdol eu portreadu mewn modd cyfrifol yn y cyfryngau.
Drwy roi gwybod i'r cyhoedd a sefydliadau ar draws meysydd iechyd ac addysg am ganfyddiadau'r ymchwil, mae'r Athro John wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma ynghylch iechyd meddwl a hunan-niweidio. Drwy ei gwaith ym meysydd ymchwil, polisi ac ymgysylltu â'r cyhoedd, mae hi wedi dangos sut gall arbenigedd academaidd sbarduno newid ystyrlon a chyflawni buddion parhaus i gymdeithas.
Mae gan yr Athro John rôl arweiniol hefyd wrth ddatblygu mynediad diogel ac sy'n cynnal preifatrwydd at ddata iechyd meddwl at ddibenion ymchwil ac arloesi. Mae hi'n gweithio ar y cyd â phartneriaid yn y GIG, llunwyr polisi, ymchwilwyr a phobl â phrofiad personol er mwyn sicrhau bod arloesedd a ysgogir gan ddata'n rhoi buddion ystyrlon i gleifion a chymunedau.
Yn gynharach eleni, cafodd yr Athro John ei hethol i Academi'r Gwyddorau Meddygol i gydnabod ei chyfraniad rhagorol i wyddor feddygol.
O ran cael ei phenodi'n OBE, dywedodd yr Athro John: “Mae'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi gael y dyfarniad hwn. Mae'n adlewyrchu pwysigrwydd atal hunanladdiad a phŵer arloesedd digidol, ymchwil a chydweithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
“Mae wedi bod yn fraint i mi weithio gyda chydweithwyr, partneriaid a chymunedau rhagorol, ac rwy'n rhannu'r anrhydedd hwn â phawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwnnw dros nifer o flynyddoedd.”
Cyflwynir ei medal i'r Athro John mewn seremoni arwisgo yn ddiweddarach eleni.