Sasha Debevec-McKenney

Yr enillydd Sasha Debevec-McKenney gyda'i chasgliad o gerddi Joy Is My Middle Name.

Mae'r bardd Americanaidd, Sasha Debevec-McKenney, wedi'i chyhoeddi’n enillydd y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas  Prifysgol Abertawe - am ei chasgliad cyntaf, Joy Is My Middle Name.

Wedi'i ddewis drwy benderfyniad unfrydol gan y panel beirniadu eleni, mae Joy Is My Middle Name yn gofnod o'r daith o ymlusgo drwy eich ugeiniau a dod i'r golau yn eich tridegau, gan ddelio â rhyw, hil, benywdod, caethiwed, bod yn sobor, prynwriaeth a diwylliant pop.

Canmolodd y panel beirniadu Sasha, sy'n 35 mlwydd oed, am ei chasgliad llawn egni, afieithus a gwydn, sy'n cywasgu syniadau mawr yn rhywbeth y mae’n bleser ei ddarllen.

Dywedodd Irenosen Okojie, Cadeirydd y Beirniaid, ar ran y panel: “Anhygoel. Casgliad afieithus, pwerus, llawn bywyd, hiwmor a syniadau. Mae gan Debevec-McKenney dalent ryfeddol. Mae'r llyfr yn arbennig yn y ffordd mae'n ysgogi’r darllenydd ag ymdeimlad o agosatrwydd sy'n ddilys a llais sy'n teimlo fel balm yn erbyn ein hamserau cymhleth."

Derbyniodd Sasha Debevec-McKenney y wobr gwerth £20,00 sy'n dathlu llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau, mewn seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

Meddai Sasha: 
"'Dwi wrth fy modd yn ysgrifennu cerddi, mae'r broses yn gwneud bywyd yn werth ei fyw. Mae yna gerdd am bob emosiwn 'dwi erioed wedi teimlo. Mae derbyn y wobr hon yn teimlo'n anhygoel, ac mae'n fraint enfawr." 

Cyhoeddir Joy Is My Middle Name, fel llyfr clawr papur ar 3 Gorffennaf 2025 gan Fitzcarraldo Editions. 

Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant.  Mae'r wobr yn cofio am Dylan Thomas er mwyn cefnogi awduron heddiw, meithrin doniau yfory, a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.

Y llyfrau eraill ar restr fer y wobr yn 2026 oedd:

  • To Rest Our Minds and Bodies gan Harriet Armstrong (Les Fugitives)
  • We Pretty Pieces of Flesh gan Colwill Brown (Chatto & Windus, Vintage)
  • Under the Blue gan Suzannah V. Evans (Bloomsbury Poetry)
  • Open, Heaven gan Seán Hewitt (Jonathan Cape, Vintage)
  • Borderline Fiction gan Derek Owusu (Canongate)

Cafodd gwobr 2026 ei beirniadu gan Irenosen Okojie, awdur Prydeinig Nigeraidd arobryn (Curandera, Butterfly Fish, Speak Gigantular a Nudibranch), ynghyd â: Joe Dunthorne, bardd a nofelydd, y cafodd ei nofel gyntaf, Submarine, ei chyfieithu i bymtheg iaith a’i gwneud yn ffilm arobryn; Nidhi Zak/Aria Eipe, bardd, heddychwr a chwedleuwr; Prajwal Parajuly, awdur y nofel The Gurkha’s Daughter: Stories and Land Where I Flee,  y mae ei waith wedi cael ei enwebu am Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe; ac Eley Williams, awdur o fri Moderate to Poor, Occasionally Good a Chymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth,   y mae ei gwaith wedi cael ei enwebu am Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.

Mae Sasha Debevec-McKenney yn ymuno â rhestr ryfeddol o awduron sydd wedi ennill y wobr o fri hon, gan gynnwys Yasmin Zaher, Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Maggie Shipstead, Guy Gunaratne a Kayo Chingonyi.

Rhannu'r stori