Myfyrwyr hapus yn cerdded ar y traeth.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod gan Unifresher fel Prifysgol orau'r DU am ragoriaeth mewn pynciau – gan gyflawni mwy o safleoedd cyntaf nag unrhyw sefydliad arall yn y DU.

Mae Unifresher 2027, sy’n cyhoeddi tablau cynghrair amgen ac annibynnol o brifysgolion, yn canolbwyntio ar brofiad a chanlyniadau myfyrwyr,    gan fesur y meysydd sydd fwyaf cysylltiedig â phrofiad myfyrwyr o fywyd o ddydd i ddydd yn y brifysgol a chanlyniadau graddedigion.

Yn ôl Unifresher: “Mae Abertawe wedi cyrraedd y brig mewn mwy o dablau pwnc nag unrhyw sefydliad arall, gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, a phob prifysgol Grŵp Russell". 

Cyflawnodd Prifysgol Abertawe y perfformiad cryfaf ar lefel pwnc yn genedlaethol o blith 124 o brifysgolion y DU sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr. Cofnodwyd:

  • 21 safle cyntaf mewn pynciau – y cyfanswm uchaf o unrhyw brifysgol yn y DU.
  • 36 safle yn y pum uchaf – mwy nag unrhyw sefydliad arall yn y rhestrau.
  • 40 safle yn y 10 uchaf — gan osod Abertawe yn ail yn genedlaethol yn ôl y mesur hwnnw
  • Yn yr wythfed safle yn gyffredinol.

Mae'r rhestrau'n asesu 85 o bynciau ar draws wyth metrig sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr: ansawdd addysgu, boddhad myfyrwyr, enillion graddedigion, cymorth academaidd, diogelwch, cynaliadwyedd, bywyd cymdeithasol, a chostau byw.

Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau myfyrwyr a phrofiad o’u cwrs, mae'r rhestrau'n rhoi safbwynt gwahanol ar berfformiad prifysgolion ac yn tynnu sylw at sefydliadau sy'n cyflawni canlyniadau cryf yn gyson o ran addysgu, cymorth a boddhad myfyrwyr.

Cyrhaeddodd Abertawe'r brig ar draws ystod eang o ddisgyblaethau sy'n cwmpasu gwyddoniaeth, technoleg, iechyd, busnes a'r dyniaethau, gan gynnwys Cyfrifeg a Chyllid, Cemeg, Seicoleg, Peirianneg Meddalwedd, Gwyddor Chwaraeon, Bioleg y Môr a Sŵoleg.

Porwch dablau cynghrair Unifresher yn llawn.

Rhannu'r stori