Poker table

Llun: Matthew Horwood Photography

Bydd y ganolfan, buddsoddiad gan UKRI, a ariannwyd drwy Ardoll Gamblo'r llywodraeth, yn arwain ymchwil arloesol i sut i fynd i'r afael â gamblo niweidiol a'i atal.

Mae gamblo niweidiol yn faich ar economi'r DU sy’n costio oddeutu £1.4 biliwn y flwyddyn yn ôl amcangyfrifon ceidwadol, gan effeithio ar y systemau gofal iechyd a chyfiawnder troseddol yn ogystal â chreu effeithiau unigol megis iselder a hunanladdiad.

Mae prinder tystiolaeth annibynnol o safon am niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn rhwystr sylweddol i bolisi, atal a thriniaeth effeithiol.

Bydd Canolfan Tystiolaeth Ymchwil i Gamblo Niweidiol y DU (GHR-UK) yn gweithio gyda'r llywodraeth, cyrff iechyd, elusennau, pobl sydd â phrofiad byw o gamblo a'r gymuned ymchwil ehangach i greu a chymhwyso ymchwil annibynnol ar sail tystiolaeth.‑ Bydd hyn yn cryfhau polisi, ymarfer a dealltwriaeth gyhoeddus ar draws y DU.

Bydd y ganolfan, a arweinir gan Brifysgolion Glasgow, Sheffield, Abertawe a Choleg y Brenin, Llundain yn:

  • rheoli rhaglen ymchwil gynhwysfawr ac arloesol i gamblo niweidiol
  • meithrin galluedd mewn ymchwil i niwed o ganlyniad i gamblo
  • cydweithio â rhanddeiliaid
  • archwilio sut gall UKRI ac asedau data eraill gefnogi creu tystiolaeth newydd
  • cydlynu'r garfan o Bartneriaethau Arloesol GHR-UK

Ymchwil, triniaeth ac atal

Rhennir yr Ardoll Gamblo yn dri llinyn:

  • Triniaeth
  • Atal
  • Ymchwil

Mae UKRI a'r Comisiwn Gamblo'n gyfrifol am fuddsoddi 20% o gronfeydd yr Ardoll Gamblo mewn ymchwil, sy'n gyfwerth â £22.1 miliwn ar gyfer 2025-26. Hyd yn hyn, mae hyn yn cynnwys 32 o adolygiadau tystiolaeth cyflym, y ganolfan newydd, 19 o bartneriaethau arloesi newydd a phedwar cymrawd polisi UKRI.

Meddai Christopher Smith, cadeirydd gweithredol Cyngor y Celfyddydau a'r Dyniaethau: "Gall niwed gamblo gael canlyniadau trychinebus ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae'r Ganolfan Tystiolaeth annibynnol newydd hon yn gam mawr ymlaen i greu’r sylfaen ymchwil o safon sydd ei hangen i lywio polisi, gwaith atal a thriniaeth gwell ar draws y DU.

"Drwy'r Ardoll Gamblo, mae UKRI yn helpu i greu gallu ymchwil credadwy, annibynnol hir dymor ym maes gamblo niweidiol, sy'n seiliedig ar uniondeb ymchwil a gwerth i'r cyhoedd".                

Mae Canolfan Tystiolaeth GHR-UK yn rhan bwysig o'r Rhaglen Ymchwil i Gamblo, a gyflwynir gan UKRI. Bydd mwy o fuddsoddiadau yn y dyfodol, gan gynnwys gwaith ymchwil i’r cydgyfeiriant rhwng gamblo a gemau fideo.

Bydd y Ganolfan Tystiolaeth a rhwydwaith GHR-UK ehangach a gefnogir ganddi, yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad pobl sydd â phrofiad bywyd o gamblo niweidiol, ynghyd â chymunedau ehangach y mae gamblo’n effeithio arnynt.  Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau na fydd ymchwil yn cael ei chynnal ar wahân ond bydd yn cyfeirio mentrau atal a thriniaeth a ariennir drwy'r ardoll.

Bydd Canolfan Tystiolaeth GHR-UK yn adeiladu ar ymchwil bresennol helaeth ac yn gweithio gyda phartneriaid polisi, asiantaethau iechyd ac elusennau, i gryfhau dealltwriaeth o niweidiau gamblo a sut i'w hatal nhw mor gyflym â phosib.

Bydd hefyd yn hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr mewn ymchwil gamblo sy'n gallu cyflwyno gwyddoniaeth o'r ansawdd uchaf ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.

Arweinir Canolfan Tystiolaeth GHR-UK gan Heather Wardle, Athro Ymchwil a Pholisi Gamblo ym Mhrifysgol Glasgow, gyda phartneriaid o Goleg y Brenin, Llundain, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Abertawe.

Meddai Wardle: "Mae'n fraint cael arwain Canolfan Tystiolaeth Ymchwil i Gamblo Niweidiol gyntaf UKRI. Am rhy hir, does dim digon o adnoddau wedi cael eu rhoi i gynnal gwaith ymchwil i gamblo ac mae’n faes sydd wedi cael ei esgeuluso. Mae cyllid newydd drwy'r Ardoll ac UKRI yn nodi ailddechrau hollbwysig - gan gryfhau ansawdd a graddfa ymchwil i gamblo niweidiol a sicrhau bod polisi'n cael ei lywio gan dystiolaeth annibynnol a thrylwyr.

Drwy roi profiad bywyd wrth wraidd ein gwaith, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n eang i ddyfnhau ein dealltwriaeth o niwed difrifol sy'n gysylltiedig â gamblo a'i leihau".

Niwed go iawn

Mae pobl sydd wedi profi niwed sy'n gysylltiedig â gamblo a'u teuluoedd yn ganolog i waith Canolfan Tystiolaeth GHR-UK. Mae tîm y prosiect yn ymrwymedig i gynnwys pobl â phrofiad o gamblo wrth gyd-greu rhaglen waith y ganolfan.

Dyma pam y mae Canolfan Tystiolaeth GHR-UK wedi penodi Martin Jones yn arweinydd sydd â phrofiad ohono.

Mae gan Martin brofiad personol dwfn o’r niwed go iawn sy’n gysylltiedig â chynhyrchion gamblo caethiwus, ar ôl wynebu effaith ddinistriol hunanladdiad oherwydd gamblo'n uniongyrchol.

Ers hynny mae Martin wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ac elusennau ymchwil, addysg a thriniaeth, ac mae'n cynnig safbwynt eang i'r rôl hon.  Mae'n gwybod pa mor bwysig ydyw i ymchwil fod yn berthnasol i'r rhai sydd wedi cael eu niweidio.

Meddai Martin: "Nid yw gwaith ymchwil yn ymarfer deallusol ynysig, dylai fod yn gysylltiedig â gamblo niweidiol go iawn sy'n effeithio ar bobl go iawn, fel y mae llawer ohonom yn gwybod yn rhy dda.  Rhaid i ni wneud llawer mwy i atal y niwed hwn, a bydd cydlynu ymchwil o safon yn cefnogi hyn, yn enwedig drwy archwilio meysydd mwy cymhleth hunanladdiad, algorithmau a data ariannol".

Partneriaethau

Un o brif rolau'r Ganolfan fydd cydlynu'r garfan o 19 Partneriaeth Arloesi GHR-UK sy'n cynnwys ystod eang o bynciau, gan gynnwys:

  • niwed gamblo a chwaraeon
  • gamblo ar-lein ac mewn gemau fideo
  • ysgogwyr strwythurol niwed gamblo

Yn gweithio mewn prifysgolion ar draws y DU, bydd y Partneriaethau Arloesi'n cynnal gwaith ymchwil i lenwi bylchau yn y sylfaen dystiolaeth ac yn cefnogi datblygiad ymatebion i niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Gyda'i gilydd, mae'r Ganolfan Tystiolaeth a'r Partneriaethau Arloesi'n ffurfio rhwydwaith GHR-UK, gan weithio'n agos i greu tystiolaeth, meithrin gallu ymchwil a llywio polisi ac ymarfer ar draws y DU, wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i gamblo niweidiol.

Annibyniaeth

Mae annibyniaeth ar gyrff sy’n gysylltiedig â gamblo masnachol yn hanfodol i waith y Ganolfan.

Mae fframwaith llywodraethiant ac uniondeb cryf yn diogelu'r annibyniaeth hon, gan sicrhau bod y Ganolfan yn gweithredu heb ddylanwad allanol ac yn parhau i fod yn ffynhonnell gredadwy a dibynadwy o ymchwil i gamblo niweidiol.

Fel y ganolfan ymchwil gyntaf yn y DU i ganolbwyntio ar gamblo niweidiol heb gysylltiadau â’r diwydiant, mae annibyniaeth y Ganolfan yn sicrhau bod y dystiolaeth a geir gan GHR-UK yn cael ei‑ diogelu rhag ymyrraeth fasnachol allanol.

Rhannu'r stori