Chwe ffotograff pen a ysgwydd o faint cyfartal tri dyn a thri dynes.

Mae chwech academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Y rhain ydy:

  • Yr Athro Leighton Evans, Athro mewn Theori'r Cyfryngau;
  • Yr Athro Cinzia Giannetti, Athro mewn Peirianneg Fecanyddol;
  • Yr Athro Neil Loader, Athro Daearyddiaeth Ffisegol;
  • Dr Claire Price, Uwch-ddarlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol;
  • Yr Athro Charlotte Rees, Is-Ganghellor Pro a Ddeon Gweithredol; and,
  • Yr Athro Richard Thomas, Pennaeth Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.

Mae cyhoeddi 44 o Gymrodyr newydd, gyda rhai o Brifysgol Abertawe yn eu plith, yn gyfle i ddathlu amrywiaeth ymchwil, arloesedd, arweinyddiaeth a chreadigrwydd Cymru.

Meddai Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae dros hanner - 52% - o'n Cymrodyr newydd yn fenywod. Rydym yn gweithio'n weithredol tuag at greu Cymrodoriaeth sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ac rydym yn hapus dros ben i gyrraedd y garreg filltir o ethol y gyfran uchaf o fenywod yn ein hanes.

“Mae croesawu ein Cymrodyr newydd i'r Gymdeithas bob amser yn un o brif uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas.

“Hoffwn eu llongyfarch nhw ar y gydnabyddiaeth hon o ragoriaeth a phwysigrwydd eu gwaith a'u cyfraniadau i fywyd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio eu profiad a'u gwybodaeth yn ein gwaith ar bolisi a datblygiad ymchwilwyr.”

 

Rhannu'r stori