Credyd: vectorfusionart | Shutterstock.
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio prosiect PhD cydweithredol newydd gyda Sefydliad Chwaraeon y DU (UKSI), darparwr gwasanaethau gwyddoniaeth, meddygaeth, technoleg a pheirianneg blaenllaw’r DU mewn chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd.
Mae'r prosiect, dan arweiniad academyddion o faes arbenigol Dadansoddeg Chwaraeon Abertawe, yn adeiladu ar raglen ymchwil yn y Brifysgol sy'n tyfu, sy'n defnyddio dadansoddeg data uwch i fynd i'r afael â heriau perfformiad byd go iawn mewn chwaraeon elît.
Yn rhan o'r Ganolfan Ymchwil Technoleg Chwaraeon Cymhwysol, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM), mae tîm y prosiect yn gweithio'n agos gydag UKSI ac ystod o sefydliadau chwaraeon - o Glwb Pêl-droed dinas Abertawe, y Scarlets a'r Gweilch, i Nofio Cymru ac INEOS Grenadiers - ac yn cynnwys yr Athro Liam Kilduff, Neil Bezodis a Laura Mason, a Dr Mark Waldron and Rowan Brown.
Gan dynnu ar eu harbenigeddau mewn gwyddor perfformiad chwaraeon, ystadegau, dysgu peirianyddol a chyfrifiadureg, nod y tîm yw cyflymu sut caiff data ei drosglwyddo'n benderfyniadau perfformiad uchel ar draws ystod o chwaraeon yn y DU.
Bydd y prosiect yn cymhwyso fframwaith - a ddatblygwyd yn ddiweddar gan y tîm yn Abertawe, mewn cydweithrediad â phartneriaid y diwydiant a'r byd academaidd - i gefnogi ymarfer ar sail data mewn chwaraeon elît.
Bydd hefyd yn defnyddio dulliau modelu uwch - gan gynnwys dysgu peirianyddol, modelau efeilliaid digidol, a lle bo'n briodol, dechnegau deallusrwydd artiffisial - i greu atebion arloesol sy'n helpu chwaraeon perfformiad uchel i wneud penderfyniadau mwy clir, a hyderus.
Meddai Neil Bezodis, Athro Biomecaneg a Thechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym bob amser yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i ddylunio a chynnal ymchwil a fydd yn cael effaith go iawn ar chwaraeon perfformiad uchel. Felly, rydym yn falch iawn o'n perthynas hirdymor ag UKSI, ac yn edrych ymlaen at botensial y prosiect hwn i gael dylanwad pellach ar eu hymarfer, yn ogystal â'r chwaraeon y maen nhw'n gweithio gyda nhw.”
Meddai Matt Parker, Cyfarwyddwr Arloesedd Perfformiad yn UKSI: "Mae ein perthynas barhaus ag Abertawe wedi ein helpu i gael mynediad at alluoedd ymchwil sydd wedi amlygu a dilysu effaith perfformiad ar draws sbectrwm eang o chwaraeon dros sawl cylch Olympaidd a Pharalympaidd, gan gynnwys yr holl sbectrwm o gymorth perfformiad, gan gynnwys biomecaneg, seicoleg, ffisioleg ac yn fwy diweddar, gwyddor data. Mae Liam, Neil a'r tîm yn A-STEM yn cynnig ymagwedd drwyadl i wyddoniaeth ochr yn ochr ag agwedd perfformiad yn gyntaf, ac mae ganddynt hanes cryf o gyflawni gwerth yn erbyn amserlenni cystadlu mewn senarios cymhleth."
Ychwanegodd Dave Thomas, Uwch-ymgynghorydd Perfformiad ac Arloesi (Technoleg) yn UKSI: "Mae’r PhD hwn, mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil A-STEM yn ein galluogi i adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli yn Abertawe, i ddatblygu a chymhwyso dulliau newydd ac arloesol o ddod o hyd i liferi perfformiad ystyrlon mewn setiau data cymhleth ac sy’n aml yn anniben. Rydym yn gobeithio y bydd hefyd yn cynnig y cyfle i ddarpar ymarferwyr gyfrannu'n ystyrlon at yr ymdrech Olympaidd a Pharalympaidd, wrth ennill profiad gwerthfawr mewn chwaraeon perfformiad uchel a datblygu sgiliau dadansoddol arloesol."
Mae'r cyfle PhD hwn yn adeiladu ar bortffolio cynhwysfawr Prifysgol Abertawe o gydweithrediadau perfformiad uchel - o brosiectau dadansoddi chwaraeon cymhwysol sydd wedi dylanwadu ar strategaethau technegol cyrff llywodraethu sy'n gweithio mewn partneriaeth ag UKSI, i'r gwaith o ddatblygu dillad sy'n gwresogi i baratoi athletwyr cyn-cystadlu, wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru.
Dysgwch mwy am adran Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe.