Bydd SOLACE yn gwella’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau solar perofsgit drwy bartneriaeth rhwng y DU ac Affrica a fydd yn grymuso mynediad at ynni cynaliadwy. Credyd: Prifysgol Maseno & Prifysgol Abertawe.
Mae partneriaeth ryngwladol newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe yn cael ei lansio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gelloedd solar tandem perofsgit yn unig ar gyfer hinsoddau yn Affrica. Yr amcan yw cefnogi mynediad hirdymor at ynni a chyfleoedd gweithgynhyrchu lleol ledled dwyrain Affrica.
Mae prosiect SOLACE (Solar Alliance on Clean Energy) yn dod ag ymchwilwyr yn y DU, Kenya, Rwanda a Tanzania ynghyd i gyd-ddatblygu technolegau solar, gan feithrin sgiliau, cyfleoedd hyfforddi ac arbenigedd ymchwil ar y cyd.
Mae mynediad at ynni dibynadwy, fforddiadwy a glân yn parhau'n rhwystr mawr i ddatblygiad economaidd, darparu gofal iechyd ac addysg mewn llawer o wledydd yn Affrica. Yn Kenya, Rwanda a Tanzania, mae'n hanfodol ehangu mynediad at ynni er mwyn cefnogi poblogaethau sy'n tyfu a chryfhau gwydnwch yn erbyn yr hinsawdd.
Mae pŵer solar yn cynnig llwybr clir i wella mynediad at ynni, ond mae'r technolegau solar silicon presennol sy'n dominyddu'r farchnad yn ddrud ac mae angen llawer o ynni i'w cynhyrchu - nid ydynt wedi cael eu cynhyrchu ar raddfa eang eto yn unrhyw le yn Affrica.
Mae celloedd solar tandem sy'n cynnwys perofsgit yn unig yn cynnig opsiwn amgen addawol, oherwydd bod modd eu prosesu ar dymereddau isel drwy ddefnyddio dulliau ar sail hydoddiant, gan leihau costau gweithgynhyrchu a gofynion ynni'n sylweddol.
Drwy gyfuno dau amsugnydd perofsgit mewn saernïaeth dandem, nod tîm SOLACE yw gwella effeithlonrwydd gan barhau i lynu wrth ddulliau gweithgynhyrchu cost isel sy’n addas i’w rhoi ar waith ar raddfa eang.
Mae datblygu'r technolegau hyn gyda labordai yn Affrica yn agor y drws i weithgynhyrchu lleol yn y dyfodol, gan gynorthwyo wrth greu swyddi, cryfhau cadwyni cyflenwi a helpu i gadw mwy o'r gadwyn werth yn y cyfandir.
Bydd y prosiect yn gwella dealltwriaeth o gludiant gwefrau, ailgyfuno a sefydlogrwydd dyfeisiau, ac yn datblygu dulliau cynhyrchu sy'n wydn o dan amodau go iawn sy'n nodweddiadol o hinsoddau'r cyhydedd.
Bydd ysgolion hyfforddiant a chyfnewid ymchwilwyr ar draws sefydliadau partner, ynghyd â bwtcamp UNESCO Campus Africa yn helpu i ddatblygu sgiliau ym meysydd ffiseg, gweithgynhyrchu a nodweddu dyfeisiau solar.
Mae'r prosiect hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar gynhwysiant ac mae ganddo ymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau a chefnogi datblygiad ymchwilwyr gyrfa gynnar.
Meddai Arweinydd y Prosiect, yr Athro Matthew Davies o Adran Peirianneg Gemegol Prifysgol Abertawe: "Mae SOLACE yn dod ag arbenigedd cyflenwol ledled Affrica a'r DU ynghyd, i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau solar perofsgit gan greu galluoedd ymchwil hirdymor. Drwy gyfuno nodweddu, modelu a chynhyrchu uwch, ein nod yw datblygu'r ddealltwriaeth sydd ei hangen i greu technolegau solar effeithlon a sefydlog sy'n addas i'w defnyddio yn hinsoddau Affrica."
Ychwanegodd Dr Francis Otieno, y cyd-arweinydd ym Mhrifysgol Maseno yn Kenya: "Mae prosiect SOLAR yn blatfform pwerus ar gyfer datblygu cydweithio ar ymchwil rhwng y DU ac Affrica, gan feithrin cyfnewid gwyddonol ac adeiladu galluedd dwfn. Drwy gryfhau arbenigedd mewn astudiaethau sylfaenol fel cludiant gwefrau a dynameg deunyddiau, mae'r fenter yn datblygu cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr medrus gan osod y sylfeini ar gyfer technolegau solar, cost isel, y bydd modd eu rhoi ar waith ar raddfa eang. I Brifysgol Maseno, Kenya, mae hyn yn gyfle i gymryd rhan mewn arloesi blaengar, ond hefyd i gyd-greu atebion sydd â photensial cryf i gael eu gweithgynhyrchu'n lleol, eu rhoi ar waith yn helaeth ac i greu cynaliadwyedd ynni yn y tymor hir.
Ariennir SOLACE gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Technoleg (STFC) drwy Gronfa Partneriaethau Gwyddonol Rhyngwladol Ymchwil a Gwyddoniaeth y DU (UKRI)
Mae'n adeiladu ar gydweithrediadau a gychwynnwyd gan TEA@SUNRISE ac yn ychwanegu at fentrau rhwng y DU ac Affrica sydd eisoes ar waith megis y prosiect REACH-PSM, sy'n datblygu llwybrau i weithgynhyrchu modiwlau perofsgit yn Nigeria, Rwanda, Kenya a De Affrica.
Darllenwch ragor am yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol.