Mae Prifysgol Abertawe unwaith eto ymysg y 10% gorau o brifysgolion am faterion amgylcheddol a moesegol, yn ôl Cynghrair Prifysgolion People & Planet diweddaraf y DU a gyhoeddwyd gan The Guardian.
Cafodd ei barnu’n sefydliad o'r radd flaenaf ac yn safle 13 o'r holl brifysgolion yn y DU a aseswyd gan y rhwydwaith ymgyrchu a arweinir gan fyfyrwyr.
Mae'r canlyniad yn cydnabod yr arweinyddiaeth a'r ymrwymiad y mae Abertawe wedi'u dangos i waith ymchwil ag effaith ym meysydd datblygu cynaliadwy, addysgu sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang a darparu campysau sy'n ystyriol o'r amgylchedd.
Mae Cynghrair Prifysgolion People & Planet yn gwerthuso polisïau a pherfformiad ar draws meysydd megis lleihau carbon, y defnydd o ynni, gwastraff, dŵr, bwyd cynaliadwy, buddsoddi moesegol, hawliau gweithwyr ac yn ystyried ymchwil ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan greu sgôr gyffredinol ar gyfer cynaliadwyedd pob sefydliad.
Mae'r Brifysgol eisoes wedi torri allyriadau carbon ar ei champysau ac o’i cherbydlu 45% ac mae'n datblygu cynlluniau i fod yn natur-bositif, yn gylchol ac yn ddiwastraff.
Mae cerrig milltir eraill yn cynnwys:
- Rhaglen ddatgarboneiddio wedi'i hariannu'n llawn sy'n trawsnewid 22 o adeiladau o foeleri nwy i wres ffynhonnell aer adnewyddadwy;
- Gweithredu rhaglen o adeiladau clyfar gan gynnwys gosod 7,500 o oleuadau LED awtomatig a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o 3,500 o baneli solar ar doeon y campws;
- Mwy na 1.3 hectar o'r campysau'n cael eu cynnal fel dolydd blodau gwyllt, gyda phedair rhywogaeth o degeirian yn ymddangos mewn ardaloedd glaswellt a oedd yn cael eu torri i greu lawntiau o’r blaen, a rhywogaethau cadwraeth sy'n flaenoriaeth megis cardwenyn llwydfrown, gleision bach a gweirloynod bach y waun yn ffynnu; ac,
- mae 62% o'r hyn a oedd yn cael ei waredu fel gwastraff campws bellach yn cael ei ailddefnyddio a'i ailgylchu.
Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi llwybr Abertawe i sero net erbyn 2035 a'i haddewid Natur-Bositif yn ogystal â gwella lles staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Yn gynharach yn y flwyddyn, cyrhaeddodd y Brifysgol safle 36 yn Nhabl Effaith Nodau Datblygu Cynaliadwy'r CU Times Higher Education 2025, gan ei rhoi hi ymysg prifysgolion gorau’r byd am effaith gynaliadwy addysgu ac ymchwil.
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe:"Ym Mhrifysgol Abertawe, credwn mewn arwain trwy esiampl. Boed drwy waith ymchwil, addysgu neu arddangos datgarboneiddio ar draws ein campysau, rydym yn falch o arwain newid ar raddfa.
"Mae bod yn amgylcheddol gynaliadwy nid yn unig yn cyd-fynd â'n diben, ond hefyd mae'n cynnig arbedion effeithlonrwydd a gweithredol sy'n cefnogi cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol".
Ychwanegodd y Rheolwr Cynaliadwyedd Teifion Maddocks: "Mae bod ymysg y 10% gorau'n gyflawniad gwych ac mae'n adlewyrchu angerdd ac ymrwymiad ein staff a'n myfyrwyr.
"Mae ein safle'n dangos cryfder Abertawe fel un o'r ychydig brifysgolion a arweinir gan ymchwil ar frig y tabl, gan fynd i'r afael ag effeithiau gweithredol sefydliad cymhleth mawr a hwyluso canlyniadau academaidd cadarnhaol i bobl a'r blaned".
Rhagor o wybodaeth am Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
Darllenwch Gynghrair Prifysgolion People and Planet yn llawn