Cyflwynwyd yr anrhydedd iddo mewn cynlluniad graddio ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe ar brynhawn dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2025.
Daw’r Gymrodoriaeth yn dilyn llwyddiant ysgubol yr Athro Hallam yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni pan gyflwynwyd y Gadair iddo mewn seremoni orseddog deimladwy.
Yn frodor o Ddyffryn Aman, enillodd Tudur Hallam radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a PhD o Brifysgol Aberystwyth, cyn cychwyn ar yrfa darlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe yn 1999.
Fe’i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011, a bu'n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg yno tan ei ymddeoliad o’r rôl yn 2025 yn sgil tor iechyd. Erbyn hyn, mae’n Athro Emeritws Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ei gyhoeddiadau’n cwmpasu ystod eang o bynciau ym maes y Gymraeg, gan gynnwys Canon ein Llên, Saunders y Dramodydd, Llawlyfr Meistroli'r Gymraeg, a’i gyfrol o gerddi Parcio. Yn ogystal, cyd-olygodd dair cyfrol yng nghyfres Ysgrifau Beirniadol gydag Angharad Price.
Bu'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Houston, Texas yn 2016-17 dan nawdd Comisiwn Fulbright, gan edrych ar sefyllfa’r Gymraeg a’r Sbaeneg, a’r tebygrwydd rhwng ieithoedd a diwylliannau sy’n wynebu gor-ddylanwad y Saesneg.
Roedd eisoes wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010 â'r gerdd Ennill Tir, a daeth ei lwyddiant eleni ag e i linach brin o brifeirdd a enillodd Gadair y Genedlaethol yr eildro. Mae’r cyfansoddiad personol a dirdynnol hwnnw yn dwyn y teitl ‘Dinas’ yn ymwneud â'i brofiad o dderbyn diagnosis canser.
Wrth dderbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd, meddai’r Athro Tudur Hallam: “Ces i yrfa hapus iawn ym Mhrifysgol Abertawe. Ces gyfle i weithio ag ysgolheigion amlwg mewn sawl maes, a mwynheais rannu â’m myfyrwyr y wefr y mae creadigrwydd yn ei roi i mi. Braint bob amser oedd eu dysgu a’u gweld yn datblygu a graddio. Heddiw, mae derbyn yr anrhydedd hon gan y brifysgol yn fraint fawr i fi a’r teulu. Fedraf fi ond dweud diolch a dymuno’r gorau i’r brifysgol wrth iddi barhau i gefnogi’r Gymraeg tua’r dyfodol.”
Ar ran y Brifysgol, meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae cyfraniad yr Athro Emeritws Tudur Hallam i ysgolheictod y Gymraeg, i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg, ac i fywyd ei genedl yn helaeth a chyfoethog. Mae’n llawn haeddu Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe am y cyfraniad hwnnw ac mae'n hyfryd gwybod ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn.
“Bu'n Athro'r Gymraeg ysbrydoledig a phrofodd yn olynydd hynod deilwng i rai o gewri Adran y Gymraeg Abertawe – yr Athro Henry Lewis, Saunders Lewis, yr Athro T J Morgan, yr Athro Brynley F. Roberts, yr Athro Hywel Teifi Edwards, a’r Athro Brifardd Christine James. Mae cynifer o fyfyrwyr wedi elwa nid yn unig o'i addysgu rhagorol ond hefyd o'i ofal drostynt a'i anogaeth ac mae diolch graddedigion a chydweithwyr Abertawe iddo am hynny yn sylweddol.”