Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prifysgol Abertawe'n sicrhau £2.5 miliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect heneiddio creadigol

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill £2.5 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i greu Hyb Ymchwil newydd ar gyfer cynyddu'r farchnad fyd-eang ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau sy'n ymwneud ag oedran.

Bydd y prosiect yn rhedeg o Ganolfan Heneiddio Arloesol y Brifysgol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru.

Ei nod yw cefnogi'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru fel rhan o ymchwil i ehangu a gwella bywydau gwaith pobl hŷn.

Ar gyfartaledd, mae pobl yn byw yn llawer hirach nag erioed o'r blaen, ac am y tro cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol mae mwy o bobl dros 65 oed nag sydd o dan 15 oed.

Mae'r 'bunt lwyd' nawr werth £320 biliwn o wariant blynyddol cartrefi'r Deyrnas Gyfunol, gyda phobl dros 50 oed yn berchen ar dros 75% o gyfoeth y genedl.

Bydd prosiect y Sefydliad Diwydiannau Heneiddio Creadigol yn datblygu'r cyfleuster labordy byw pwrpasol cyntaf ar Gampws Parc Singleton y Brifysgol, wedi'i gynllunio ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.

Yn ganolfan blaenllaw Cymru ar gyfer astudiaethau heneiddio, mae'r Ganolfan Heneiddio Arloesol yn rhoi golwg gadarnhaol ar heneiddio a phobl hŷn wrth graidd ei busnes, ac mae'r ymchwil yn sicrhau bod gofal, lles ac ansawdd bywyd wedi'u tanategu gan y syniadau gwreiddiol ac arloesol diweddaraf.

Dywedodd Dr Charles Musselwhite, cyd-arweinydd y prosiect a Chyfarwyddwr Interim y Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe:

"Rydym wrth ein bodd ein bod yn sefydlu'r hyn a gredwn a fydd yn fenter gwirioneddol unigryw. Mae ein poblogaeth yn heneiddio, a gallai elwa o gynnyrch a gwasanaethau a ddatblygir gan ein sector diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan gynnwys celfyddydau, crefftau, y cyfryngau, darlledu, a thechnolegau clyfar ac arloesol.

"Byddwn yn creu gofod i fusnesau diwydiannau creadigol ac entrepreneuriaid weithio'n agos gyda phobl hŷn, elusennau, llunwyr polisi ac ymarferwyr i weithio tuag at gyd-greu prototeipiau a allai ddod yn gynnyrch a gwasanaethau newydd ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.

"Rydym yn gwneud hyn drwy ymagwedd labordy byw, yn defnyddio model adenydd a hyb. Bydd yr Hyb yn cynnwys, hyd y gwyddwn, y Cyfleuster Byw Bob Dydd ymroddedig cyntaf yn y byd, yn fodel o ystafell a all newid rhwng lle byw, ystafell fwyta a chegin i ddatblygu a phrofi cynnyrch; ystafelloedd rhith-wirionedd; a labordy caffi ymneilltuo.

"Mae'r adenydd yn cynnwys gofodau cymunedol megis cartrefi gofal, canolfannau cymunedol, caffis a chlybiau i brofi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau. Gobeithiwn mai Cymru fydd y lle gorau yn y byd i heneiddio, ac y bydd yn arwain y ffordd yn y diwydiannau creadigol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio."

Ydych chi’n fusnes yn y diwydiant creadigol neu’n entrepreneur sy’n datblygu cynnyrch a gwasanaethau a allai fod o fudd i boblogaeth hŷn Cymru yn eich barn chi? Hoffai’r Brifysgol eich gwahodd i gysylltu drwy’r hyb ymchwil Canolfan Heneiddio’n Arloesol gyda’ch syniadau. E-bostiwch gydag ymholiadau.

Rhannu'r stori