Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Clawr llyfr 'Informed is Best'.

Mae'r academydd o Abertawe, yr awdur poblogaidd a'r ymchwilydd blaenllaw ar fwydo babanod, yr Athro Amy Brown yn helpu rhieni’r dyfodol ar sut mae adnabod newyddion ffug ar feichiogrwydd, genedigaeth a babanod yn ei llyfr newydd Informed is Best.

Yn ei llyfr newydd, mae'r Athro Amy Brown yn cymryd ffocws gwahanol i gefnogi rhieni trwy feichiogrwydd, genedigaeth a'r misoedd cynnar. Yn hytrach na rhoi cyngor ac arweiniad iddynt o safbwynt penodol, mae hi'n siarad â rhieni am sut mae gwerthuso'r wybodaeth y maen nhw'n dod o hyd iddi ar-lein, yn y wasg ac mewn llyfrau eu hunain.

Gwneud penderfyniadau

Meddai’r Athro Brown: “Mewn byd sy'n gorlifo â gwybodaeth yn dweud wrthych beth sydd orau i chi a'ch babi, gall gwneud penderfyniadau deimlo'n llethol. Pwy ydych chi'n ymddiried ynddo? Pwy sy'n dweud y gwir? A sut ydych chi'n gwybod a yw'r hyn maen nhw'n ei ddweud yn iawn i chi?

“Mae yna amrywiaeth o lyfrau beichiogrwydd, genedigaeth a magu plant yn y byd, pob un yn cynnig gwahanol ddulliau ar gyfer tyfu, geni a gofalu am eich babi. Ar hyn o bryd, mae diddordeb cynyddol ymhlith y cyhoedd mewn seilio penderfyniadau ar wyddoniaeth ac ymchwil gyfoes, gydag astudiaethau ymchwil yn aml yn cael eu defnyddio i ategu gwahanol safbwyntiau. Yn feunyddiol, mae’r cyfryngau yn cyflwyno ymchwil newydd fel ‘yn bendant y peth newydd gorau’ i ferched beichiog a mamau newydd. Ond oni bai bod gennych gefndir mewn gwyddoniaeth, ymchwil neu gyfryngau gall fod yn anodd gwybod pwy sy’n cyflwyno’r ffeithiau a phwy sy’n eu gwyrdroi.

“Fe wnes i fynd ati i ysgrifennu'r llyfr hwn fel canllaw i rieni beichiog a rhieni newydd wrth eu helpu i ddeall sut mae ymchwil yn cael ei gynnal ac i feddwl am ystyr astudiaethau ymchwil mewn gwirionedd. Nid rhoi’r ‘un ateb cywir’ iddyn nhw oedd fy mwriad, ond eu harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i farnu pethau fel pwy sy’n rhoi’r neges iddyn nhw, pwy ariannodd yr ymchwil a pha mor dda y cafodd ei chynnal a phenderfynu drostyn nhw eu hunain beth mae hynny yn golygu iddynt hwy. Gobeithiaf fod y llyfr hwn yn helpu rhieni i farnu beth sy'n wirioneddol bwysig a pherthnasol iddynt, a beth sydd yn ddim ond seiniau sain.”

Prynwch gopi o Informed is Best a gyhoeddir gan Pinter & Martin.

Rhannu'r stori